Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

o gynnyrch a gwasanaethau, yn ymwneud ag ymchwil a datblygu Technoleg Gyfreithiol fel rhan o'u gweithgareddau busnes.

a) Busnesau Technoleg Gyfreithiol newydd a busnesau sy'n tyfu 231

Validient 232

Wedi'i sefydlu yn 2021, mae Validient yn cynnig offer rheoli cydymffurfiaeth a systemau sefydlu cleientiaid digidol ar

gyfer sefydliadau cyfreithiol, gwerthwyr tai, a busnesau rheoledig eraill. Sefydlwyd y cwmni newydd gan Ieuan Leigh, Karl Turnbull, Gareth Williams, a Thomas Elliott ac fe’i cefnogir gan Lywodraeth Cymru, Wesley Clover, Alacrity Foundation, a Sefydliad Waterloo 233 . Yn ôl y cyd- sylfaenydd a’r Prif Swyddog Gweithredol Ieuan Leigh: Mae Validient yn system rheoli cylch bywyd cleientiaid masnachol o'r dechrau i'r diwedd sy'n canolbwyntio ar wneud y mwyaf o allbwn systemau cyfredol cwmnïau, tra'n cadw cleientiaid mewn hwb popeth-mewn-un. Gyda ffocws i ddechrau ar sefydlu ac ymgysylltu parhaus, y weledigaeth yw cynyddu tryloywder rhwng cwmni a chleient, cael atebion technoleg eraill i gydweithio, a gweithio fel un ffynhonnell o wirionedd i gleientiaid. 234 Validient oedd yr unig gwmni Technoleg Gyfreithiol o Gymru i sicrhau lle ar LawtechUK Sandbox yn 2022 235 , a fydd yn cefnogi ei gynlluniau ehangu ledled y Deyrnas Unedig. 236 Dyma hefyd yr unig aelod Technoleg y Gyfraith o Gymru gyda Barclays Eagle Labs. 237 Ymhellach, mae Validient yn mynd ati i noddi'r Wales Legal Awards, gan arddangos ei ymrwymiad i'r gymuned gyfreithiol leol. 238

231 Sylwch, lle na chyfeirir yn wahanol, mae'r wybodaeth am y cynnyrch a'r gwasanaethau a gynigir gan y cwmnïau a restrir isod wedi'u crynhoi o wefan y cwmni dan sylw. 232 Gweler https://validient.com/. 233 Ibid. 234 Barclays Eagle Labs, “Lawtech Member Validient”, ar gael yn https://labs.uk.barclays/our- industries/lawtech/lawtech-members/validient/. 235 Sion Barry,“22 Great Welsh start -up fi rms to watch” (Wales Online, 14 Tachwedd 2022), ar gael yn

https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/twenty-two-great-welsh-start-25491127. 236 Lawtech UK, “Lawtech Sandbox Diaries: Validient” (8 Chwefror 2023), ar gael yn https://lawtechuk.io/news/sandbox-diaries-validient. 237 Barclays Eagle Labs (n 232). 238 Ieuan Leigh, “Wales Legal Awards - Innovation Sponsors” (Validient, 4 Mai 2022), ar gael yn https://validient.com/news/wales-legal-awards/.

46

Made with FlippingBook HTML5