Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Nod y cwmni yw symleiddio adrodd statudol a chydymffurfiaeth reoleiddiol, gan helpu gyda diwydrwydd dyladwy cwsmeriaid, rheoli risg, a goruchwylio cydymffurfiaeth. Mae ei wasanaethau yn cwmpasu'r agweddau canlynol: • Adnabod Eich Cwsmer (KYC) a Atal Gwyngalchu Arian (AML) (gan gynnwys gwasanaethau dilysu hunaniaeth a dogfennau, adnabod wynebau biometrig, gwiriadau atal gwyngalchu arian, prawf arian, a gwiriadau personau agored i ddylanwad gwleidyddol) • Monitro cwsmeriaid ar gyfer newidiadau busnes perthnasol (e.e. ansolfedd, methdaliad, ac ati.) • Rheoli risg, gan gyfuno amrywiol ddangosyddion risg ar gyfer gwneud penderfyniadau effeithiol • Cydymffurfiaeth, gan gynnwys adolygiad o weithgarwch amheus a thracwyr gweithredu mewnol.

Credas 239

Wedi’i sefydlu gan Rhys David a Kevin Smith yn 2016, mae Credas yn fusnes sy’n cael ei redeg yn annibynnol o fewn Grŵp Indigo, sy’n arbenigo mewn AML, KY C a gwasanaethau gwirio hunaniaeth.

Mae'r gwasanaethau a gynigir gan Credas yn cynnwys gwiriadau hunaniaeth amser real a dilysu dogfennau, gan ddefnyddio meddalwedd adnabod wynebau biometrig, i frwydro yn erbyn troseddau ariannol, lleihau'r amser a dreulir ar ddiwydrwydd dyladwy, a pharhau i gydymffurfio â rheoliadau perthnasol, heb oedi trafodion. Mae Credas yn ddarparwr gwasanaeth hunaniaeth a ardystiwyd gan lywodraeth y Deyrnas Unedig, gydag ardystiadau ISO 27001 a Cyber Essentials Plus, sy'n cynnig nodweddion fel pyrth cwsmeriaid â brand, 'journey builders' ffurfweddadwy, a gwiriadau cefndir hawl i weithio amser real. Mae partneriaeth ddiweddar rhwng Credas a Goodlord Group, gan ddefnyddio technoleg gwirio hunaniaeth y cwmni, ar fin gwella gwiriadau hawl-i-rentu digidol ar gyfer dinasyddion Prydain ac Iwerddon. 240

239 Gweler https://credas.co.uk. 240 Goodlord Group, “Goodlord Group and Credas announce right -to- rent checks partnership” (25 Mai 2023), ar gael yn https://blog.goodlord.co/goodlord-group-and-credas-announce-right-to-rent-checks-partnership>

47

Made with FlippingBook HTML5