Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Profodd Credas dwf cyflym a llwyddiant o'r cychwyn cyntaf:

A yw twf y cwmni yn cyd-fynd â'ch disgwyliadau? Rwy'n meddwl ei bod yn deg dweud ei fod, yn ôl pob tebyg, wedi rhagori ar y disgwyliadau cychwynnol. Ac yn fwy diweddar, rydym yn gyson yn darged ecwiti preifat a phobl sydd â diddordeb yn ein caffael oherwydd y twf cryf […] Er ein bod bellach yn eithaf aeddfed, wedi ein hen sefydlu ac mae gennym refeniw o bedair neu bum miliwn o bunnoedd, y llynedd fe wnaethom dyfu ar 40% o hyd, sy'n rhyfeddol, a rhagwelir y byddwn yn dyblu eto dros y 24 mis nesaf. 241 Cafodd y twf busnes hwn ei gynnwys ar y rhestr fer am ddwy wobr yng Ngwobrau Technoleg Cymru yn 2018 242 , gwobr Arloesedd mewn Technoleg yn Wales STEM Awards yn 2020 243 , a gwobr Fintech Scale-up of the Year yn Fintech Awards Wales yn 2022 244 , gan ennill gwobr Best Emerging Technology yn Wales Online Digital Awards 2018 245 . Mae Credas yn noddi y Welsh Veterans Awards. 246

Wyser 247

Wedi’i sefydlu yn 2020 gan Mark Pearce a Jason Wheatley, mae Wyser yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i “alluogi cwmnïau cyfreithiol a darparwyr ADR i brosesu data achos

yn gywir, gwella effeithlonrwydd cost llwyth achosion, targedu ffrydiau refeniw newydd ac awtomeiddio tasgau ailadroddus 248 ”. Mae Wyser yn dilyn safonau'r sector cyhoeddus yn ei ddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial ac yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau rheoli prosiect a chydweithredol i ddatblygu atebion wedi'u teilwra ar gyfer ei gwsmeriaid. 249

241 Ibid. 242 Credas, “Credas Shortlisted For Wales Technology Awards 2018” (4 Ebrill 2022), ar gael yn https://credas.com/news/credas-wales-technology-awards/. 243 Wales Stem Awards, “Shortlist announced for Wales Stem Awards” (9 Mawrth 2020), ar gael yn https://www.stemawards.wales/2020/03/09/shortlist-announced/. 244 Fintech Awards Wales, “2022 Awards, Shortlist and Winners” (6 Hydref 2022), ar gae l yn https://www.fintechawardswales.com/2022-awards/. 245 Credas, “Credas wins “best emerging technology” at Wales Online Digital Awards” (11 Mehefin 2018), ar gael yn https://credas.com/news/credas-wins-best-emerging-technology-at-wales-online-digital-awards/. 246 The Veterans Awards, “The Welsh Veterans Awards - Rewarding Veterans In Business, Fitness, Sport And The Wider Community”, a r gael yn https://veteransawards.co.uk/welsh-veterans-awards/. 247 Gweler https://wyser.online. 248 Tech Nation, “Winners of Rising Star 4.0” (16 Rhagfyr 2021), ar gael yn https://technation.io/news/introducing-the- regional-winners-of-rising-stars-4-0/. 249 Wyser, “Our Services, AI & Automation”, ar gael yn https://wyser.online/our-services/artificial-intelligence-and- automation.

48

Made with FlippingBook HTML5