Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Yn ddiweddar, mae Wyser wedi partneru ag Opencast i wella dyraniad achosion a lleihau ôl- groniad o fewn Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yr Adran Busnes a Masnach, gan ddefnyddio ei dechnolegau deallusrwydd artiffisial (AI) a chasglu data 250 . Mae’r gwasanaeth canllaw cyfraith cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol wedi’i bweru gan AI a ddatblygwyd ar gyfer Acas a’r Tribiwnlys Cyflogaeth wedi caniatáu i Wyser gael ei ddewis ar gyfer Sustainable Impact Investment Programme (SIIP) Innovate UK yn 2022 251 , ar ôl derbyn cymorth yn flaenorol drwy Sustainable Innovation Fund UKRI yn ystod pandemig COVID-19. 252 Yn 2020, roedd Wyser yn un o enillwyr rhanbarthol Rising Stars 4.0 yn Tech Nation Rising Stars Awards. 253 Ar yr achlysur, cydnabu’r Prif Swyddog Gweithredol Mark Pearce bwysigrwydd Cymru fel amgylchedd cychwyn busnes: Mae Llundain yn aml yn cael y sylw, ond mae cwmnïau technoleg fel ni wedi sylwi ar fanteision sefydlu yng Nghymru oherwydd y doreth o dalent o ansawdd uchel o'r prifysgolion yno, mynediad haws at gyllid rhanbarthol a chymuned dechnoleg sydd â chysylltiadau da. 254

Identitech 255

Wedi'i sefydlu gan Scott Jones ym mis Awst 2020, ac ar hyn o bryd yn cael ei arwain gan y Prif Swyddog Gweithredol Manoj Khetia, mae Identitech yn gwmni Technoleg Gyfreithiol newydd sy'n darparu gwasanaethau cydymffurfio, rheoli hunaniaeth a meddalwedd cynhwysfawr. Mae Identitech yn cynnig ystod o wasanaethau, gan gwmpasu cydymffurfiaeth KYC ac AML, dilysu dogfennau trwy ddeallusrwydd artiffisial (AI), a gwirio biometrig gan ddefnyddio technoleg adnabod wynebau. Mae gwasanaethau cydymffurfio KYC ac AML yn cwmpasu 250 Response Source, “Opencast Joins Wyser in New ACAS Partnership” (10 Ionawr 2022), ar gael yn https://pressreleases.responsesource.com/news/102266/opencast-joins-wyser-in-new-acas-partnership/. 251 Innovate UK, “Sustainable Impact Investment Programme”, ar gael yn https://iuk.ktn- uk.org/programme/sustainable-impact-investment-programme/. 252 Neil Rose, “Law firm and start -ups awarded government cash to develop lawtech” (Legal Futures, 2 Rhagfyr 2020), ar gael yn https://www.legalfutures.co.uk/latest-news/law-firm-and-start-ups-awarded-government-cash-to- develop-lawtech. 253 Kane Fulton, “Meet the Rising Stars 4.0 Regional Winners: Wales’ leading early - stage scaleups” (Tech Nation, 3 Rhagfyr 2021), ar gael yn https://technation.io/news/meet-the-rising-stars-4-0-regional-winners-wales-leading-early- stage-scaleups/. 254 Ibid. 255 Gweler https://identi.tech.

49

Made with FlippingBook HTML5