Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

gwiriadau credyd y Deyrnas Unedig, dadansoddiadau o gofrestrau etholiadol, sancsiynau rhyngwladol a sgrinio personau sydd wedi'u dylanwadu'n wleidyddol (PEP), yn ogystal â chwiliadau cofrestr genedigaethau a marwolaethau. Nod gwasanaethau Identitech yw symleiddio cydymffurfiad, gan arwain at arbedion cost ac amser, a darparu datrysiadau cydymffurfio a sefydlu wedi'u teilwra i gleientiaid.

Yn ddiweddar, dyfarnwyd gwobr Mobile and Emerging Technologies StartUp of the Year i'r cwmni yn StartUp Awards Wales 2022. 256

Hoowla 257

Wedi'i sefydlu yn 2013 gan Adam Curtis, mae Hoowla yn darparu datrysiadau trawsgludo a meddalwedd rheoli achosion ar gyfer cwmnïau cyfreithiol. Mae'r cwmni yn disgrifio'i genhadaeth fel hyn: Gyda phwyslais cryf ar yr adran drawsgludo ac wedi'i ddylunio gyda'r defnyddiwr mewn golwg, fe wnaethom ddatblygu llifoedd gwaith y gellir eu haddasu, cynhyrchu dogfennau awtomataidd, wedi'u hintegreiddio â systemau eraill, storio data yn ddiogel, offer cydweithredu, a galluoedd adrodd a dadansoddi. Mae'r nodweddion hyn yn golygu mai Hoowla yw'r feddalwedd i'w defnyddio ar gyfer trawsgludwyr a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol sydd am symleiddio eu prosesau, lleihau gwallau, a darparu gwell gwasanaeth i gleientiaid. 258 Mae gan Hoowla bresenoldeb cynyddol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon. 259 Mae nifer o’i gleientiaid wedi’u lleoli yng Nghymru, gan gynnwys Hennah Haywood, Baker Ashley Solicitors, a G2C. 260

Mae'r cwmni'n cynnig gwasanaethau amrywiol o fewn eu meddalwedd rheoli achosion, gan gynnwys:

Rheoli Dogfennau ac Awtomeiddio

256 Fresh Business Thinking, “StartUp Awards Wales”, ar gael yn https://www.freshbusinessthinking.com/national- startup-awards/winners/2022-winners/wales. 257 Gweler https://www.hoowla.com. 258 Emily Flight, “Celebrating our 10 year Anniversary” (Hoowla, 9 Mai 2023), ar gael yn https://www.hoowla.com/celebrating-our-10-year-anniversary/. 259 Tom O'Brien, “Hoowla Opens Office in Northern Ireland” (Hoowla, 31 Ionawr 2017), ar gael yn https://www.hoowla.com/hoowla-northern-ireland-office/. 260 Hoowla, “Case Studies”, ar gael yn https://www.hoowla.com/customer-case-studies-success-stories/.

50

Made with FlippingBook HTML5