Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Porth Cleient

Llenwi Ffurflenni'n Awtomatig

Cyfrifon

• Integreiddio ag ystod eang o wasanaethau trydydd parti, gan gynnwys y Gofrestrfa Tir, darparwyr chwiliadau trawsgludo, a CThEM. 261

Enillodd Hoowla y Operations LawTech Startup Award yng nghynadledd Legal Geek yn 2016. 262 Roedd ei sylfaenydd, Adam Curtis, wedi cyrraedd rownd derfynol Technology Entrepreneur of the Year yn Entrepreneur Wales Awards yn 2016. 263

W2 Global Data 264

Wedi’i sefydlu gan Warren Russell yn 2011, mae W2 Global Data yn gwmni o Gasnewydd sy’n arbenigo mewn gwirio hunaniaeth ac AML. Dros y blynyddoedd, mae'r cwmni wedi ehangu ei wasanaethau i gwmpasu nifer o wiriadau ac atebion cydymffurfio, gan gynnwys KYC, AML, Dilysu Dogfennau, Asesiad Fforddiadwyedd ar gyfer y sector Hapchwarae, Gwiriadau Atal Twyll, Adnabod Eich Busnes (KYB), a Gwirio Oedran. Mae gwasanaethau W2 Global Data “wedi'u cynllunio i wella sefydlu cwsmeriaid gyda chydymffurfiaeth reoleiddiol lawn 265 ”. Mae'r cwmni'n darparu cefnogaeth 24/7 ac mae hefy d yn cynnig dilysu dogfennau â llaw ar gyfer achosion KYC mwy cymhleth. Mae atebion wedi'u teilwra'n llawn ac ystod eang o ddulliau integreiddio hefyd yn bosibl.

261 Hoowla, “Integrations”, ar gael yn https://www.hoowla.com/integrations/. 262 Hoowla, “Hoowla Wins LawTech Award” (24 Hydref 2016), ar gael yn https://www.hoowla.com/hoowla-wins- lawtech-startup-award/. 263 Fresh Business Thinking, “Entrepreneur Wales Awards 2016 Shortlist Announced” (Fresh Business Thinking, 11 Hydref 2016), ar gael yn https://www.freshbusinessthinking.com/purpose/entrepreneur-wales-awards-2016-shortlist- announced/43615.article. 264 Gweler https://www.w2globaldata.com. 265 Tec hSPARK, “W2 Global Data”, ar gael yn https://techspark.co/company/w2-global-data/.

51

Made with FlippingBook HTML5