Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

MY PINPAD 303

Wedi'i sefydlu yn 2012 gan Justin Pike 304 , unodd MY PINPAD, un o gwmnïau Technoleg Ariannol blaenllaw Cymru, â SmartPesa yn 2022, 305 gyda Barry Levett yn Brif Swyddog Gweithredol ar hyn o bryd.

Mae MYPINPAD yn darparu gwasanaethau i ddiogelu a gwirio trafodion talu symudol, gan gynnwys dilysu hunaniaeth trwy ddyfeisiau symudol:

Mae ein technoleg berchnogol a patent byd-eang yn sicrhau ac yn diogelu mewnbynnu gwybodaeth sensitif ar sgriniau cyffwrdd gan greu amgylchedd y gellir ymddiried ynddo. Mae datrysiadau arloesol MYPINPAD yn dileu'r angen am galedwedd arbenigol a thrwy hynny leihau cost a chymhlethdod, yn hyrwyddo mabwysiadu cyflym ac yn manteisio ar alluoedd cysylltiedig dyfeisiau clyfar. 306

Mae'r cwmni'n parhau i ehangu ac yn ddiweddar cyhoeddodd bartneriaeth newydd gyda Novatti i gyflwyno datrysiad taliadau Tap on Phone i farchnad Awstralia. 307

ANNA Money 308

Wedi'i sefydlu yn 2017 gan Boris Dyakonov ac Eduard Panteleev, ymunodd trydydd cyfarwyddwr, Andrew Doman, ag ANNA Money yn 2022. 309 Mae ANNA yn fyr

am “Absolutely No Nonsense Admin” ac yn darparu cyfrif busnes symlach ar gyfer busnesau bach. Mae ei wasanaethau yn galluogi cwsmeriaid i greu anfonebau yn hawdd, storio dogfennau busnes, rheoli cyfrifon, a monitro cyfrifon banc lluosog.

303 Gweler https://mypinpad.com/. 304 Polly Jean Harrison, “MYPINPAD: Transforming payments for vulnerable people” (The FinTech Times, 4 Ionawr 2021), ar gael ynhttps://thefintechtimes.com/mypinpad-transforming-payments-for-vulnerable-people/. 305 Business Wire, “MYPINPAD and SmartPesa Merge to Become the Global Leader in Mobile Payments Acceptance” (19 Ebrill 2022), ar gael yn www.businesswire.com/news/home/20220419005017/en/MYPINPAD-and-SmartPesa- Merge-to-Become-the-Global-Leader-in-Mobile-Payments-Acceptance. 306 Ibid. 307 Novatti, “Leading Australian Acquirer Novatti Partners With Mypinpad To Offer Businesses A New Tap On Phone Payments Solution” (27 Hydref 2022), ar gael yn https://novatti.com/leading-australian-acquirer-novatti- partners-with-mypinpad-to-offer-businesses-a-new-tap-on-phone-payments-solution/. 308 Gweler https://anna.money. 309 ANNA Money, “A statement about our shareholders” (6 Ebrill 2022), ar gael yn https://anna.money/blog/updates/a-statement-about-our-shareholders/.

57

Made with FlippingBook HTML5