Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Yn ddiweddar enillodd ANNA Money “Best Application of AI or ML in Financial Services” yn y Card and Payments Awards 2023. 310

Kuva 311

Wedi'i sefydlu yn 2021 gan Etic Lab LLP, cwmni ymchwil a dylunio digidol sydd wedi’i leoli yng nghanolbarth Cymru 312 , mae Kuva yn ddatrysiad gweithio o bell cynhwysfawr ar gyfer

gweithwyr proffesiynol nad yw'n casglu, storio nac yn rhoi gwerth ariannol ar wybodaeth am y cwmni na'i gleientiaid. Mae Etic Lab wedi denu buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, Innovate UK a Banc Datblygu Cymru, ac wedi cyrraedd rhestr fer Wales Startup Awards for Fintech. 313

Roedd Kuva yn un o Enillwyr Rhanbarthol Rising Stars 4.0 yn 2021. Cydnabu’r Prif Swyddog Gweithredol Alexander Hogan y cymorth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru:

"Mae Kuva yn gwmni gwirioneddol Gymreig, wedi’i eni o’r ysbryd entrepreneuraidd Cymreig arbennig ac wedi’i ddal yn gadarn yn y gwerthoedd o fod yn agored, arloesedd ac ysbryd cymunedol sy’n agwedd gan olog ar y cymeriad Cymreig. Rydyn ni wedi cael ein cefnogi gan ein cymuned yn y canolbarth a Llywodraeth Cymru drwy gydol ein taith ac mae’n ddiamau pe na baem pwy ydym ni a lle’r ydym ni, ni fyddai Kuva yn bodoli." 314

Awen Collective Ltd 315

Wedi'i sefydlu yn 2017 gan Jules Farrow-Lesnianski a Daniel Lewis, 316 mae Awen Collective yn gwmni meddalwedd seiberddiogelwch a’i genhadaeth yw “gwneud cymdeithas yn fwy diogel trwy gynyddu seibr gydnerthedd ein hisadeiledd

310 ANNA Money, “Using AI to make ANNA even better” (21 Ebrill 2023), ar gael yn https://anna.money/blog/updates/using-ai-to-make-anna-even-better/. 311 Gweler https://kuva.org.uk. 312 Kuva, “Kuva Launch Press Release”, ar gael yn https://kuva.org.uk/kuva-launch-press-release/.

313 Creative Industries Council, “Ones to watch 2021 Showcase”, ar gael yn https://www.thecreativeindustries.co.uk/ones-to-watch-2021/etic-lab-llp.

314 Kane Fulton, “Meet the Rising Stars 4.0 Regional Winners: Wales’ leading early - stage scaleups” (Tech Nation, 3 Rhagfyr 2021), ar gael yn https://technation.io/news/meet-the-rising-stars-4-0-regional-winners-wales-leading-early- stage-scaleups/. 315 Gweler http://www.awencollective.com/. 316 Awen Collective, “Team Awen”, ar gael yn https://www.awencollective.com/team.

58

Made with FlippingBook HTML5