Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Yn gy ffredinol, mae’r cyfweleion yn derbyn categori eu busnes fel cwmni Technoleg Gyfreithiol: “Rwy’n meddwl y byddem wrth gwrs yn ein dosbarthu fel Technoleg Gyfreithiol” (Identitech) a “100% rydym yn Dechnoleg Gyfreithiol” (Wyser). Fodd bynnag, awgrymodd dau gyfwelai nad yw dosbarthiad llym yn bosibl, gan y gellir cyflwyno eu gwasanaethau i gwsmeriaid sy’n gweithredu mewn diwydiannau gwahanol: Weithiau mae pobl yn cyfeirio atom fel Technoleg Ariannol, fel Technoleg Rheoleiddio, fel Technoleg Eiddo (PropTech), fel technoleg y gyfraith neu gyfreithiol, neu dechnoleg ymylol. Rydym yn un o'r cwmnïau hynny sy'n rhychwantu pob un o'r rhain ac mae hynny'n bennaf o ganlyniad i'n cefndir cydymffurfio a'n treftadaeth. Oherwydd bod angen gwiriadau AML ar bob un o'r sectorau hynny a bod angen cydymffurfio'n glir arnynt. Yn y pen draw, does dim ots gen i beth mae pobl yn ein galw ni. Y sector cyfreithiol yw ein sector mwyaf, heblaw am werthwyr tai cychwynnol. Rydyn ni'n tyfu'n gryf iawn yno. (Credas)

Nododd Validient, yn y p en draw, safbwynt y cwsmer sy’n dylanwadu ar y ffordd y mae busnes yn nodweddu ei wasanaethau:

Ydym, rydym yn gwmni technoleg gyfreithiol. Ond rwy'n meddwl ein bod ni'n dod o dan lawer o wahanol gategorïau. Technoleg Rheoleiddio, ond gallem hefyd fod yn Dechnoleg Ariannol am ein bod yn cyflawni gwiriadau AML. Dechreuom gyda chleientiaid cyfreithiol, ond mae'n dibynnu ar ba gwsmer rydyn ni'n sgwrsio ag ef. Wyddoch chi, os ydw i'n siarad â chwmni cyfrifeg, efallai na fydda i'n gwmni Technoleg Gyfreithiol newydd, byddwn i'n fwy o gwmni Technoleg Ariannol iddyn nhw. (Validient) Mae Cymru yn cynrychioli’r farchnad fwyaf sylweddol ar gyfer Identitech a Validient, sydd â chwsmeriaid Cymreig yn bennaf. Mae gan Wyser gwsmeriaid ledled y Deyrnas Unedig, tra bod gan Credas gwsmeriaid rhyngwladol, yn ogystal â rhai Cymreig a Saesnig. Mae'r holl gyfweleion yn cynllunio ehangu eu cwmnïau i sectorau a marchnadoedd eraill yn y dyfodol. I Credas, “[y] weledigaeth ar gyfer y dyfodol yw gweld ein technoleg yn ca el ei mabwysiadu’n eang mewn sectorau eraill ac ehangu’n rhyngwladol” (Credas). Mae Identitech eisiau cyrraedd marchnadoedd eraill a datblygu eu technoleg i ganiatáu i bobl reoli eu hunaniaeth ddigidol - cynllun sy'n ymddangos yn unol â thueddiadau cydymffurfio preifatrwydd esblygol. Mae Validient yn bwriadu ehangu mwy yn y Deyrnas Unedig, ond mae’n awyddus i gyflogi a chadw talent Cymreig o fewn ei weithlu.

64

Made with FlippingBook HTML5