Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Dylai'r cynnydd blynyddol rhagamcanol mewn buddsoddiad i gychwyn Technoleg Gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig (rhwng £1.6 biliwn a £2.2 biliwn erbyn 2026) 329 gefnogi’r cynlluniau uchelgeisiol hyn. Disgwylir i Gymru rannu’r twf hwn, er bod argaeledd hyfforddiant a phrentisiaethau Technoleg Gyfreithiol yn cael ei ystyried yn hollbwysig i gefnogi’r datblygiadau hyn. 330

c) Entrepreneuriaeth yng Nghymru: heriau a chyfleoedd

Er i’r holl gyfweleion grybwyll cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru fel ffactor cadarnhaol, awgrymodd Validient a Wyser y gallai’r llywodraeth ac awdurdodau lleol wella eu strwythurau cymorth i hwyluso twf. Mae hyn yn cynnwys ehangu mynediad at grantiau arbenigol, adnoddau, a rhwydweithiau cymorth, yn ogystal â meithrin perthnasoedd agos rhwng awdurdodau llywodraethol a busnesau newydd. Ar hyn o bryd, Banc Datblygu Cymru sy'n dominyddu cyllid ar gyfer busnesau newydd yng Nghymru. Mae ymchwil diweddar yn dangos bod rhai sylfaenwyr yn teimlo eu bod wedi'u caethiwo gan y ddibyniaeth ar y Banc Datblygu am arian. A’i bod yn anodd cael mynediad at opsiynau ariannu amgen, yn enwedig gan angylion buddsoddi a chwmnïau cyfalaf menter. 331 Mae hyn yn cyd-fynd â'n canfyddiadau. Cadarnhaodd y rhai a gyfwelwyd mai’r Banc Datblygu yw’r prif fuddsoddwr cychwyn busnesau yng Nghymru, ond nodwyd ei bod yn anodd sicrhau cyllid cyfres B ar gyfer tyfu yng Nghymru, gan fod mynediad at gyfalaf yn gyfyngedig o’i gymharu â Lloegr, a Llundain yn benodol. Dangosodd y cyfweliadau hefyd fod cael tendrau yn heriol i fusnesau newydd llai, gan arwain at angen partneru â sefydliadau neu gystadleuwyr mwy o faint i lwyddo. Roedd un cyfwelai, yn arbennig, yn wynebu anawsterau wrth gael tendrau gan y llywodraeth ond llwyddodd i ffynnu trwy weithio mewn partneriaeth â chwaraewyr sefydledig a manteisio ar eu hadnoddau a'u cysylltiadau. Yn gyffredinol, canmolodd pob un o’r cyfweleion y gefnogaeth a dderbyniwyd yn lleol gan Lywodraeth Cymru, prifysgolion a chyrff lleol. Yr agweddau allweddol a grybwyllwyd oedd y canlynol: • cynlluniau prentisiaeth rhagorol, yn ymwneud â diogelwch data a seiberddiogelwch a gynigir gan Lywodraeth Cymru, 332 • mynediad hawdd a syml at swyddogion Llywodraeth Cymru,

329 Frontier Economics, “The contribution of Lawtech to the UK economy, A report prepared for Lawtech UK” (8 Gorffennaf 2021), 2, ar gael yn https://cms.lawtechuk.io/uploads/Lawtech-economic-contribution-fe-report-2021.pdf.

330 Adroddiad Jomati (n 3) 7. 331 Thomas et al. (n 324), 13. 332 Llywodraeth Cymru, “Prentisiaethau”, ar gael yn https://www.llyw.cymru/prentisiaethau.

65

Made with FlippingBook HTML5