• FinTech Wales, fel hwb rhanbarthol sy’n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer hwyluso rhwydweithio gyda busnesau a chyrff lleol eraill, • Cydweithio â chwmnïau sy'n gweithredu mewn sectorau a sefydliadau academaidd eraill, gan hyrwyddo twf o'r ddeutu a throsglwyddo gwybodaeth. Nododd Validient, er enghraifft, y gallai gweithio gyda chwmnïau o wahanol feintiau a chydweithio ar drafodaethau, digwyddiadau ac adborth yn ymwneud â thechnoleg alluogi busnesau newydd i deilwra eu gwasanaethau’n well i anghenion y farchnad gyfrei thiol. Adleisiodd Identitech yr un pwynt, gan ganmol rôl FinTech Wales: [Yng] Nghymru rwy'n meddwl bod cymaint mwy o gefnogaeth. Gallaf fynd at FinTech Wales, dewis unrhyw un o'r cwmnïau sydd yno ac estyn allan a siarad â nhw, gofyn am gyngor. Mae cael y rhwydwaith agos hwnnw yng Nghymru yn amhrisiadwy. (Identitech) Fodd bynnag, roedd diffyg sefydliad sy'n canolbwyntio ar Technoleg Gyfreithiol fel Lawtech UK yn destun pryder. Nododd Validient, yr unig gwmni Technoleg Cyfreithiol newydd o Gymru i gymryd rhan ym mlwch tywod Lawtech UK: Rydym wedi cael cymorth yng Nghymru gan ein rhwydwaith o fuddsoddwyr, a mynediad at gwmnïau drwy flwch tywod LawTech UK ac roedd rhai cwmnïau yng Nghymru a allai ein helpu. Ond pe na bai hynny gennym, ni fyddem wedi cael y cymorth mynediad gan nad oes unrhyw sefydliadau yng Nghymru sy'n trefnu digwyddiadau rhwydweithio. (Validient) Fodd bynnag, nododd rhai o’r cyfweleion fod rhywfaint o betruster, o fewn y gymuned gyfreithiol leol, wrth groesawu technoleg gyfreithiol, gan awgrymu bod annog cwmnïau cyfreithiol, yn enwedig rhai llai, i fabwysiadu datrysiadau technoleg newydd yn hanfodol i gefnogi twf busnesau Technoleg Gyfreithiol newydd yn Nghymru. Gall cwmnïau cyfreithiol fod yn betrusgar i fuddsoddi mewn arloesi oherwydd costau uwch a'r gromlin ddysgu sy'n gysylltiedig â thechnoleg newydd; fodd bynnag, dylai dangos manteision a gwerth datrysiadau Technoleg Gyfreithiol gynyddu'r gyfradd fabwysiadu yn y sector cyfreithiol. Yn y pen draw, awgrymodd Wyser y dylid ymddiried mwy yn y d iwydiant Technoleg Gyfreithiol lleol: “Rhowch gyfle i fusnesau bach a chanolig eu maint ddarparu gwasanaethau i chi. Cymerwch risg ac estyn allan i gwmnïau llai a rhoi cyfle iddynt” (Wyser). Mae llogi a chadw talent leol yn her a wynebir gan lawer o fusnesau newydd yng Nghymru. Mae ymchwil wedi dangos bod angen codyddion a datblygwyr medrus iawn ar fusnesau newydd ym maes technoleg, a'u prinder yn lleihau cyfleoedd i dyfu. 333 Mae anhawster cyffredinol wrth
333 Thomas et al. (n 324), 17.
66
Made with FlippingBook HTML5