hyfforddi a chadw talent yn y sector cyfreithiol yng Nghymru, 334 ffactor a grybwyllwyd hefyd gan rai o'r cyfweleion. Yn gyffredinol, mae busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu yng Nghymru yn awyddus i gyflogi talent leol: “Yn y dyfodol fe hoffen ni gael ychydig mwy o effaith [a] manteisio ar ychydig mwy o dalent yng Nghymru boed yn raddedigion yn unig neu unrhyw un o Gymru - byddai hynny'n dda” (Validient). Fodd bynnag, mynegodd Credas a Validient bryderon am brinder talent lleol yng Nghymru. Yn ogystal, nododd Credas, gyda'r cynnydd mewn gweithio o gartref yn ystod ac ar ôl y pandemig, bod y gystadleuaeth gyflog bellach wedi dod yn fyd-eang, a bod y gystadleuaeth am logi talent lleol wedi gwaethygu. Mae canfyddiad hefyd bod graddedigion yn aml yn amharod i ymuno â busnesau newydd a bod yn well ganddynt weithio mewn corfforaethau mawr. Mae adleoli talent i Gymru yn ddewis arall y mae sawl cyfwelai wedi’i ystyried. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod polisïau mewnfudo yn peri heriau yn y maes hwn: “Mae pobl fedrus iawn, addysgedig iawn gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnom yn en byd o brin yn y Deyrnas Unedig. Ond allwn ni ddim dod â nhw yma a rhoi swyddi iddyn nhw oherwydd ein polisi mewnfudo […]. Rwy'n meddwl y dylid ei lacio” (Credas).
Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, awgrymodd y cyfweleion ddatblygu cydweithrediad agosach â phrifysgolion lleol, gan gynnwys o bosib interniaethau neu leoliadau gyda diwydiant:
Rydw i eisiau gweithio gyda phrifysgolion, helpu myfyrwyr i raddio a rhoi rhywfaint o brofiad gwirioneddol iddyn nhw yn syth. […] Rwy'n meddwl ei bod yn hyfryd bod prifysgolion yn mynd allan ac mewn gwirionedd o safbwynt cwbl wrthrychol yn siarad â busnesau ac yn canfod yn gyffredinol pa fath o broblemau sydd ganddynt. Mae cael yr wybodaeth honno mor werthfawr. (Identitech)
Ffurf arall o gydweithio agos fyddai rhwydweithio, arddangos a datblygu sgiliau cyflogadwyedd y myfyrwyr. Yn ôl Validient:
I gael ffordd o [ganiatáu] i wahanol fyfyrwyr yn y bôn, sydd newydd adael y brifysgol, […] i ddangos beth maen nhw'n gweithio ag ef, faint maen nhw'n ei wneud, beth maen nhw'n ei garu a chael pobl i gwrdd â nhw. Rwy'n meddwl y byddai hynny'n wych oherwydd, wyddoch chi, pan fyddwch chi'n cyflogi rydych chi'n cael cymaint o CVs yn dod i mewn ac maen nhw i gyd yn dweud yr un peth ac mae fel hyn, “iawn, ond beth sy'n eich eich gwneud chi'n wahanol?" I ni, dangos menter, eich bod allan yn gwneud mwy o bethau, dyna sy'n ein denu. (Validient)
334 Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (n 1), para 9.11.
67
Made with FlippingBook HTML5