Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

4.5 Canfyddiadau allweddol

Amlygodd y cyfweliadau a gynhaliwyd gennym gyda phedwar busnes newydd a busnesau sy'n tyfu rai themâu a thueddiadau cyffredin. Ar y cyfan, mae Cymru’n cael ei gweld fel amgylchedd cefnogol ar gyfe r busnesau newydd a thechnolegau cyfreithiol sy’n darparu cyfleoedd ar gyfer cydweithio agos â’r llywodraeth, awdurdodau lleol, prifysgolion a’r sector cyfreithiol lleol. Mae yna ymdeimlad cryf o gymuned: mae ein cyfweleion yn coleddu'r gefnogaeth a gânt ac yn awyddus i gyfrannu at yr economi a chymdeithas leol, er enghraifft drwy gyflogi talent leol, blaenoriaethu cwsmeriaid Cymreig, a chefnogi prosiectau a sefydliadau cymunedol. Fodd bynnag, mae busnesau Technoleg Gyfreithiol newydd ac sy'n tyfu yng Nghymru hefyd yn wynebu heriau, a allai eu rhoi dan anfantais o gymharu â chystadleuwyr sydd wedi’u sefydlu yn Llundain a rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig: ymhlith yr heriau hyn mae mynediad at gyllid ar gyfer ehangu, mynediad at dalent yng Nghymru neu bobl sy ’n barod i adleoli yma, a mynediad i farchnad y sector cyfreithiol, yn cael ei weld yn fwy ceidwadol o ran mabwysiadu technoleg o gymharu â Lloegr.

Mae ein hymchwil yn awgrymu bod gan Gymru y potensial i ddod yn amgylchedd arbennig o ddeniadol ar gyfer busnesau newydd Technoleg Gyfreithiol, a’i bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir.

68

Made with FlippingBook HTML5