Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Er mwyn cyrraedd yr amcan hwn bydd angen, yn gyntaf oll, lefel sylweddol o gydgysylltu a chydweithio rhwng yr ecosystem Technoleg Gyfreithiol gyfan: y busnesau newydd, y sector cyfreithiol, prifysgolion lleol, Llywodraeth Cymru, a rhanddeiliaid perthnasol eraill (Cymdeithas y Cyfreithwyr, SRA, ac ati.). Cryfder yr ecosystem hon, a’i natur agos atoch, sydd fwyaf gwerthfawr ar gyfer busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu, gan ei bod yn galluogi perthynas gylchol gyda buddion o'r ddeutu i Gymru, sector cyfreithiol Cymru, a’r cwmnïau dan sylw. Yn y bennod olaf, rydym yn datblygu rhai awgrymiadau ar gyfer cyflawni'r amcan hwn.

5 - Addysg Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Ynghyd â chwmnïau cyfreithiol, busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu, mae sefydliadau addysg uwch (SAUau) yn cynrychioli cydran allweddol o ecosystem Technoleg Gyfreithiol Cymru. Amlygwyd eu rôl gan Gomisiwn Thomas, a ganfu: Mae gan brifysgolion rôl bwysig wrth hyfforddi myfyrwyr y gyfraith yng Nghymru i ddefnyddio technolegau newydd ar gyfer ymarfer cyfreithiol modern ac i gynorthwyo practisau cyfreithiol i ddefnyddio a datblygu technoleg […]. Mae’n hanfodol annog lledaenu a throsglwyddo’r wybodaeth sydd ar gael mewn canolfannau arbenigol fel [Prifysgol Abertawe] ar draws y sector cyfreithiol yng Nghymru. 335 Roedd adroddiad Comisiwn Thomas yn trafod yn fanwl rôl prifysgolion Cymru o ran cefnogi arloesedd cyfreithiol, gan nodi, gyda rhai eithriadau cyfyngedig, “mae diffyg ymgysylltu cymharol yng Nghymru â’r cyfle a gyflwynir gan ddigideiddio a’r cynnydd mewn deallusrwydd artiffisial 336 ”. Awgrymodd y Comisiwn y dylai cyrsiau a gynigir gan brifysgolion “gwmpasu datblygiad technolegol – digideiddio a deallusrwydd artiffisial 337 ” ac argymhellodd “fod yn rhaid addysgu technoleg y gyfraith i bob myfyriwr a phroffesiwn ledled Cymru 338 ”. Yn olaf, nododd Comisiwn Thomas hefyd “er gwaethaf manteision maint cymharol fach Cymru, mae’r diffyg cydweithio

335 Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (n 1), para 9.79. 336 Ibid, para 10.33. 337 Ibid, para 10.32. 338 Ibid, para 10.35.

69

Made with FlippingBook HTML5