Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

rhwng ysgolion y gyfrai th, a rhwng ysgolion y gyfraith a’r proffesiynau cyfreithiol, yn rhwystr sylweddol” 339 , gan adnewyddu galwadau am gydweithio a chydlynu.

Yn y bennod hon, rydym yn trafod tirwedd bresennol addysg Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru, gan gynnig trosolwg o’r gwa hanol ffyrdd y mae prifysgolion Cymru yn darparu hyfforddiant Technoleg Gyfreithiol i fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol.

5.1 Cyrsiau ôl-raddedig mewn technoleg gyfreithiol

Yn 2018, Prifysgol Abertawe oedd y Sefydliad Addysgu Uwch cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig rhaglen LLM mewn Technoleg Gyfreithiol. 340 Er bod prifysgolion eraill eisoes yn cynnig graddau LLM yn cynnwys modiwlau ar gyfraith technoleg gwybodaeth, diogelu data neu e- fasnach 341 , y cwrs yn Abertawe oedd y rhaglen gyntaf a ddatblygwyd mewn cydweithrediad rhwng y Gyfraith a Chyfrifiadureg, gyda’r nod o baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd hybrid, megis technolegydd cyfreithiol, arbenigwr gweithrediadau cyfreithiol, a pheiriannydd cyfreithiol. Roedd y cwrs yn cynnwys modiwlau blaengar mewn Meddwl Cyfrifiadurol, Deallusrwydd Artiffisial a’r Gyfraith, Cadwyn Bloc, Entrepreneuriaeth Technoleg Gyfreithiol, a mwy. Roedd gan y myfyrwyr hefyd y posibilrwydd o gwblhau prosiect Technoleg Gyfreithiol yn lle traethawd hir safonol, gan ddatblygu arteffact Cyfrifiadurol (fel ap neu ontoleg). Mae graddedigion y rhaglen wedi dod o hyd i waith yng nghwmnïau cyfreithiol gorau y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys Bird & Bird, Eversheds Sutherland, Freshfields Bruckhaus Deringer, Linklaters, Slaughter and May, ac eraill. 342 Mae’r LLM Technoleg Gyfreithiol gwreiddiol bellach wedi esblygu i fod yn LLM Technoleg Gyfreithiol a Chyfraith Fasnachol newydd, gan ddechrau o 2023. 343 Mae’r rhaglen newydd yn cynnig modiwlau megis rtificial Intelligence in Commerce and Legal Practice, and Distributed Ledger Technology and Commerce – Law and Regulation, sy’n edrych ar gymwysiadau ymarferol technoleg gyfreithiol ym maes cyfraith fasnachol.

339 Ibid, para 10.22. 340 Prifysgol Abertawe, “Swansea University Launches Brand New LLM in LegalTech” (19 Mehefin 2018), ar gael yn https://www.swansea.ac.uk/law/news/swanseauniversitylaunchesbrandnewllminlegaltech.php. 341 Er enghraifft, ar LLM Innovation, Technology and the Law Prifysgol Caeredin – gweler https://www.law.ed.ac.uk/study/masters-degrees/llm-innovation-technology-law. 342 Gwybodaeth a ddarparwyd gan gyfarwyddwr y cwrs i'r tîm ymchwil fis Mai 2023. 343 Prifysgol Abert awe, “TechGyfreithiol a Chyfraith Fasnachol, LLM”, ar gael yn https://www.swansea.ac.uk/cy/ol- raddedig/addysgir/y-gyfraith/llm-techgyfreithiol-cyfraith-fasnachol/.

70

Made with FlippingBook HTML5