1 – Y sector gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru
Yn y bennod hon, rydym yn cyflwyno prif nodweddion y sector gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru. Rydym yn trafod ei gyfansoddiad, gan gynnwys data ystadegol ar ddosbarthiad gwasanaethau a’u hargaeledd ledled Cymru, y cyfraniad y mae’n ei wneud i economi Cymru, a’r materion yr ymddengys eu bod yn effeithio ar ei dwf a’i drawsnewidiad, gan gynnwys mewn perthynas â mabwysiadu a datblygu gwasanaethau technoleg gyfreithiol.
1.1 Cyfansoddiad a nodweddion allweddol
Mae Cymru yn gweithredu fel rhan o awdurdodaeth gyfreithiol Cymru a Lloegr, ac mae ar wahân i rai’r Alban a Gogledd Iwerddon. O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, nid oes gan Gymru ei system gyfreithiol na’i barnwriaeth ei hun, ond mae ganddi’r pŵer i lunio deddfwriaeth mewn sawl maes datganoledig. Mae dosbarthiad gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru yn bennaf yn ne Cymru, gydag oddeutu 34% o'r holl fentrau gweithgareddau cyfreithiol yng Nghymru wedi'u lleoli yng Nghaerdydd, ac yna 13% yn Abertawe. 5 Mae’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau cyfreithiol masnachol yng Nghymru wedi’u lleoli yn y ddwy ddinas hyn. Y tu allan i'r dinasoedd hyn, efallai na fydd gwasanaethau cyfreithiol mor hygyrch, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
a) Cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol
Yn ôl Adroddiad Ystadegau Blynyddol 2021 Cymdeithas y Cyfreithwyr 6 , ym mis Gorffennaf 2021, roedd nifer y deiliaid tystysgrifau ymarfer (PC) yng Nghymru yn 3,977, cynnydd o 7.6 % o gymharu ag ystadegau 2011 (3,683 o ddeiliaid PC). Mae’r nifer hefyd wedi cynyddu yn y cyfnod 2019-2021, gyda 78 yn fwy o ddeiliaid tystysgrifau ymarfer (PC) (+2.0 %). 7 Er gwaethaf y cynnydd hwn, mae maint y garfan o gyfreithwyr sy’n ymarfer yng Nghymru wedi crebachu o 3.1% o’r holl ddeiliaid PC yng Nghymru a Lloegr yn 201 1, i 2.6% yn 2021. 8 Gan ystyried data 5 Guto Ifan, The Legal Economy in Wales (Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, Mai 2019) ar gael yn https://www.caerdydd.ac.uk/__data/assets/pdf_file/0008/1699217/Legal-Economy-report-FINAL.pdf. 6 Cymdeithas y Cyfreithwyr, Trends in the solicitors' profession: annual statistics report 2021 (21 Medi 2022), ar gael yn https://prdsitecore93.azureedge.net/-/media/files/topics/research/annual-statistics-report-2021-september-2022.pdf. 7 Ibid, o gymharu â Chymdeithas y Cyfreithwyr, Trends in the solicitors' profession: annual statistics report 2019 (19 Hydref 2020), ar gael yn https://prdsitecore93.azureedge.net/-/media/files/topics/research/law-society-annual- statistics-report-2019.pdf. Roedd nifer y deiliaid PC yng Nghymru yn 3,899 yn 2019 a 3,977 yn 2021. 8 Cymdeithas y Cyfreithwyr (n 6), 15.
7
Made with FlippingBook HTML5