6.3 Agwedd gylchol at arloesi cyfreithiol yng Nghymru
Mae’r gyd -ddibyniaeth rhwng gwahanol gydrannau sector gwasanaethau cyfreithiol Cymru wedi’i thanlinellu gan y busnesau newydd (start - ups) a’r busnesau sy'n tyfu (scale -ups) yr ydym wedi’u cyfweld ar gyfer ein hymc hwil. Mae'r cwmnïau hyn wedi tynnu sylw at y peiriannau cylcholdeb allweddol canlynol: • dod o hyd i broblemau busnes gan gwmnïau cyfreithiol a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, fel mewnbwn angenrheidiol ar gyfer datblygu cynnyrch Technoleg Gyfreithiol newydd; • recriwtio staff technegol a chyfreithiol a hyfforddwyd yng Nghymru gan brifysgolion Cymru, fel y brif ffynhonnell arbenigedd ac adnoddau dynol ar gyfer busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu; • y posibilrwydd o gynnwys busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu yn y cyfleoedd addysgu a chyflogadwyedd a gynigir gan brifysgolion Cymru, gan gynnig y cyfle i gyfrannu at ffurfio recriwtiaid y dyfodol a darparu llwybrau uniongyrchol i gyflogaeth iddynt; • datblygu cynnyrch Technoleg Gyfreithiol newydd mewn cydweithrediad â phrifysgolion a chwmnïau cyfreithiol Cymru, er mwyn gwreiddio ymchwil flaengar, sicrhau cydymffurfiaeth reoleiddiol, ac adborth defnyddwyr sy'n hanfodol i wella cynnyrch o'r fath; • marchnata cynnyrch Technoleg Gyfreithiol a ddatblygwyd yng Nghymru i gwmnïau cyfreithiol o Gymru, gan ddatblygu perthnasoedd hirdymor, buddiol o'r ddeutu rhwng busnesau newydd a chwmnïau cyfreithiol.
Mae’r enghreifftiau o arloesi sy’n digwydd mewn cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru ac a drafodir yn yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at beiriannau cylcholdeb posibl pellach:
• gall darparu arweiniad a hyfforddiant fel rhan o arloesi safle (position innovation) gan gwmnïau cyfreithiol elwa o gydweithio agosach â phrifysgolion, tra’n cynnig cyfle i ymchwilwyr gyfathrebu a datblygu eu hymchwil ymhellach mewn cydweithrediad â’r diwydiant; • mae recriwtio peirianwyr cyfreithiol a ffigurau hybrid eraill gan gwmnïau cyfreithiol Cymru yn creu galw am gyrsiau hyfforddi arbenigol ac yn cynnig llwybr clir i gyflogadwyedd; • mae ffocws cwmnïau cyfre ithiol canolig a mawr ar arloesi cynnyrch yn awgrymu’r posibilrwydd o roi’r gwaith ymchwil a datblygu ar gontract allanol i fusnesau newydd a busnesau sy'n tyfu, neu i weithgareddau ymchwil a datblygu deilliedig (spin off), gan gefnogi mwy o entrepreneuriaeth yn y sector;
78
Made with FlippingBook HTML5