• mae'r galw am atebion Technoleg Gyfreithiol masnachol yn croestorri angen y busnesau newydd lleol am gymorth i nodi problemau busnes, profi defnyddwyr a datblygiad parhaus.
Mae prifysgolion hefyd yn darparu peiriannau cylcholdeb ychwanegol, yn ychwanegol at y rhai a amlinellwyd eisoes uchod:
• mae angen i ganolfannau ymchwil ym maes arloesi a thechnoleg gyfreithiol gael mewnbwn gan gwmnïau cyfreithiol i nodi materion perthnasol a throsi ymchwil academaidd yn allbynnau (fel apiau neu brototeipiau) y gall cwmnïau cyfreithiol eu profi a'u defnyddio; • gall cyrsiau a modiwlau mewn technoleg gyfreithiol elwa o gynnwys busnesau newydd (start-ups) a busnesau sy'n tyfu (scale-ups) i ganolbwyntio ar sgiliau entrepreneuriaeth, a chwmnïau cyfreithiol i ganolbwyntio ar achosion defnydd, ymagweddau a phrosiectau ymchwil (e.e. ar gyfer traethodau hir myfyrwyr) a all arfogi recriwtiaid y dyfodol yn well i gyflwyno arloesi mewn cwmnïau cyfreithiol a busnesau newydd yng Nghymru yn y dyfodol; • o ystyried natur ryngddisgyblaethol ymchwil Technoleg Gyfreithiol, efallai y bydd ymchwilwyr academaidd angen mynediad at yr arbenigedd sydd ar gael mewn Sefydliadau Addysg Uwch eraill yng Nghymru, a all yn eu tro fod angen arbenigedd ymchwilwyr o’r fath eu hunain; • gall myfyrwyr elwa o fynediad at arbenigedd, canolfannau ymchwil a chynigion addysgol mewn prifysgolion eraill yng Nghymru, tra'n cyfrannu gwybodaeth a gaffaelwyd neu a ddatblygwyd yn eu sefydliad cartref; • efallai y bydd angen i brifysgolion weithio mewn partneriaeth â chwmnïau cyfreithiol neu fusnesau newydd i gael mynediad at alwadau cyllid (e.e. Innovate UK, EIT, ac eraill), tra gallai eu cynnwys yn y consortiwm gynyddu siawns partneriaid eraill o lwyddo i sicrhau’r cyllid.
Mae dull cylchol o ymdrin ag arloesi cyf reithiol yng Nghymru felly wedi’i nodweddu gan dair prif golofn:
1) arbenigedd , 2) gwybodaeth , a'r 3) farchnad .
79
Made with FlippingBook HTML5