• Mae angen i fusnesau newydd (start-ups) a fusnesau sy'n tyfu (scale-ups) (vii) gynnig cymhellion uniongyrchol neu anuniongyrchol i gwmnïau cyfreithiol lleol gyd-ddatblygu (megis amodau ffafriol ar gyfer defnyddio’r arloesedd canlyniadol), (viii) dyrannu hawliau eiddo deallusol yn unol â’r cyfraniadau a dderbyniwyd mewn ffordd deg ac adeiladol, (ix) mabwysiadu strategaethau arloesi agored lle bo’n bosibl, (x) cydweithio â phrifysgolion i ddatblygu technolegau blaengar, tra’n derbyn y proffil risg uwch y gallai hyn ei awgrymu, (xi) mabwysiadu prosesau busnes i bennu anghenion allanoli a mewnoli, y gallai busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu Cymru fynd i’r afael â hwy, (xii) nodi llwybrau ariannu sy’n rhoi gwerth ar gonsortia cyd -ddatblygu, (xiii) cymryd rhan weithredol mewn fforymau diwydiant a mynd ati i geisio trafodaeth adeiladol gyda rheoleiddwyr a sefydliadau'r diwydiant (e.e. Cymdeithas y Cyfreithwyr). • Mae angen i Brifysgolion (xiv) nodi llwybrau i drosi ymchwil academaidd yn allbynnau diriaethol (profion cysyniad, prototeipiau, arddangosiadau, ac ati.) i gymell cydweithio, (xv) datblygu diwylliant o arloesi’n fewnol, er enghraifft drwy greu sefydliadau ymchwil ad hoc neu rwydweithiau o academyddion o’r un anian ym maes y Gyfraith a disgyblaethau perthnasol eraill, (xvi) gwneud ymdrech bendant i gynnwys cwmnïau cyfreithiol a busnesau newydd mewn rhwydweithiau academaidd, eu cynnwys mewn ceisiadau am gyllid a dylunio prosiectau ymchwil cydweithredol sy’n cynnig buddion o'r ddeutu, (xvii) gwneud defnydd effeithiol o ganolfannau ymchwil, unedau hybu, cyflymwyr a mannau eraill sy’ n bodoli eisoes ar gyfer entrepreneuriaeth a chymorth busnes o fewn prifysgolion, (xvii) cymryd rhan mewn deialog reoleiddiol adeiladol sy'n ceisio nodi cyfleoedd ar gyfer arloesi, yn hytrach na phwysleisio rhwystrau iddo.
Colofn 3: Y Farchnad
Mae’r golof n hon yn gofyn am gydweithio yn y sector i sicrhau bod yr ymdrechion a ddatblygwyd o dan y ddwy golofn gyntaf yn cyflawni'r canlyniadau a fwriadwyd:
• Mae angen i gwmnïau cyfreithiol : (i) fabwysiadu prosesau busnes i benderfynu ar y ffordd orau o ddatblygu technoleg gyfreithiol, gan gynnwys gosod gwaith ar gontract allanol i fusnesau newydd a busnesau sy'n tyfu yn lleol, (ii) mabwysiadu prosesau busnes i bennu’r ffordd orau o ddefnyddio datrysiadau Technoleg Gyfreithiol fasnachol, gan gynnwys asesu manteision cydweithio â darparwyr lleol a allai gynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer teilwra a chymryd rhan mewn cyd-ddatblygiad, (iii) ymrwymo i gymorth hirdymor ar gyfer cynnyrch Technoleg Gyfreithiol sydd wedi’u datblygu ar y cyd, gan ddarparu adborth a mynediad at d data lle bo’n gydnaws â gofynion rheoliadol, (iv) mabwysiadu amrywiaeth o feini prawf ar gyfer gwerthuso datrysiadau Technoleg
81
Made with FlippingBook HTML5