Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

6.4 Argymhellion allweddol

Fel y trafodwyd uchod, credwn fod gan Gymru’r potensial i fod yn arweinydd byd -eang ym maes arloesi Technoleg Gyfreithiol. Rydym eisoes wedi awgrymu model arloesi cylchol fel y galluogwr allweddol ar gyfer yr amcan hwn. Yma, rydym yn mynegi set o argymhellion allweddol sy'n mynd i'r afael â chanfyddiadau allweddol ein hymchwil.

Argymhelliad 1

Mae angen datblygu ymwybyddiaeth o fodolaeth ecosystem Technoleg Gyfreithiol gyfoethog yng Nghymru, gan ddod â chwmnïau cyfreithiol, prifysgolion, busnesau newydd (start-ups), busnesau sy'n tyfu (scale-ups), a rhanddeiliaid perthnasol eraill (BSB, Cyngor y Bar, SRA, Cymdeithas y Cyfreithwyr, ac ati.) at ei gilydd mewn fforwm parhaol. Yn y lle cyntaf, dylai Cyngor Cyfraith Cymru hyrwyddo a chefnogi sefydlu fforwm o’r fath, gan nodi’r strwythur mwyaf priodol i annog ymgysylltu a gwneud penderfyniadau ar y cyd. Yn y tymor hwy, dylai’r ganolfan ar gyfer Technoleg Gyfreithiol gynnal y fforwm fel a awgrymir yn argymhelliad 5 .

Argymhelliad 2

Dylid cydnabod ecosystem Technoleg Gyfreithiol Cymru fel endid unedol, wedi’i hategu gan hunaniaeth, gweledigaeth, brandio a strategaeth farchnata clir. Dylai Llywodraeth Cymru, Cymdeithas y Cyfreithwyr, Cyngor y Bar, a chynrychiolwyr prifysgolion lleol, busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu, ddiffinio gofynion o’r fath gyda’i gilydd, mewn ymgynghoriad â’r sector ehangach. Dylid rheoleiddio mynediad at frandio unedol (fel ardystiad neu nod masnach ar y cyd) a dylid rhoi gwiriadau priodol ar waith i ddangos ymlyniad at hunaniaeth a gweledigaeth (neu ofynion eraill, megis moeseg a safonau ymddygiad) a osodwyd gan y sector.

Argymhelliad 3

Dylid cwblhau, cyhoeddi a diweddaru gwaith mapio cynhwysfawr o holl gydrannau ecosystem Technoleg Gyfreithiol Cymru. Dylai hyn gynnwys cronfa ddata sy’n casglu gwybodaeth am bob cydran, gan gynnwys y cynnyrch a gynigir gan fusnesau newydd a busnesau sy'n tyfu a’u meysydd arbenigedd technolegol, meysydd ymarfer cwmnïau cyfr eithiol a’u defnydd neu ddiddordeb mewn technolegau penodol, arbenigedd ymchwilwyr academaidd ac argaeledd canolfannau ymchwil neu rwydweithiau academaidd.

84

Made with FlippingBook HTML5