Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Argymhelliad 4

Dylai’r gweithgaredd mapio a awgrymir gan Argymhelliad 3 gefnogi’r gwaith o greu system atgyfeirio awtomataidd, y gallai unrhyw barti â diddordeb gael mynediad ati i nodi darpar gydweithwyr neu ddarparwyr Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru. Er enghraifft, dylai cwmni cyfreithiol sydd â diddordeb mewn awtomeiddio dogfennau allu nodi ’n gyflym unrhyw gwmnïau cyfreithiol Cymreig sy’n defnyddio neu’n datblygu technolegau tebyg yng Nghymru, unrhyw fusnes newydd neu fusnes sy'n tyfu sy'n cynnig neu'n datblygu datrysiadau masnachol yn y maes, ac unrhyw ymchwilydd academaidd mewn prifysgol yng Nghymru sy'n ymwneud ag ymchwil a datblygu sy'n berthnasol i'r ymholiad.

Argymhelliad 5

Mae angen sefydlu canolfan ar gyfer Technoleg Gyfreithiol fel pwynt cyfeirio allweddol ar gyfer yr ecosystem. Dylai canolfan o’r fath gael y dasg o gydlynu’r ecosys tem, cynnal y system fapio a chyfeirio, trefnu digwyddiadau perthnasol, a hyrwyddo ymgysylltu a chydweithio (gan gynnwys y fforwm a awgrymir yn Argymhelliad 1). Gallai'r ganolfan hefyd gael y dasg o reoli brandio ac agweddau gweinyddol eraill ar gyfer ecosystem Technoleg Gyfreithiol Cymru. Mae Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru ym Mhrifysgol Abertawe yn darparu cyfleuster sydd eisoes yn bodoli y gellid ei ddefnyddio at y diben hwnnw, gan ehangu ei aelodaeth i holl brifysgolion eraill Cymru a mabwysiadu model arweinyddiaeth a rennir ar gyfer ei reoli. Rydym yn nodi y byddai hyn yn gofyn am gyllid ychwanegol ar ôl mis Mehefin 2023.

Argymhelliad 6

Dylai Llywodraeth Cymru chwarae rhan flaenllaw wrth gefnogi ecosystem Technoleg Gyfreithiol Cymru a’i brandio, gan nodi hyn fel blaenoriaeth allweddol ar gyfer ei hymgysylltiad â’r sector gwasanaethau cyfreithiol. Gall hyn olygu bod angen i adrannau lluosog ac endidau eraill (e.e. Busnes Cymru) o fewn Llywodraeth Cymru gydlynu eu hymdrechion mewn ffyrdd mwy effeithiol, neu ailstrwythuro eu cymwyseddau i gydgrynhoi rhai perthnasol mewn un adran neu endid.

Argymhelliad 7

85

Made with FlippingBook HTML5