Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Dylai holl gydrannau ecosystem Technoleg Gyfreithiol Cymru ymrwymo i’r gofynion cylchol a amlinellir uchod ar gyfer arbenigedd, gwybodaeth, a marchnad, fel rhag-amod ar gyfer cael mynediad i’r system brandio ac atgyfeirio unedig. Dylai’r ganolfan ar gyfer Technoleg Gyfreithiol a awgrymir yn Argymhelliad 5 ddatblygu amserlen ar gyfer gweithredu'r gofynion cylchol ac asesu cydymffurfiaeth â hwy, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid perthnasol.

Argymhelliad 8

Dylai ecosystem Technoleg Gyfreithiol Cymru gael ei nodweddu gan gynwysoldeb, cydweithio, parch, tegwch a chynaladwyedd. Mae gan bob cydran o’r ecosystem gyfrifoldeb i gyfrannu’n weithredol at ei weithrediad, i gydweithio a chefnogi rhannu gwybodaeth yn y sector, ac i hyrwyddo datblygiad arloesedd gyda’r nod yn y pen draw o wella mynediad at gyfiawnder i bawb.

Casgliad

Mae ein hadroddiad wedi tynnu sylw at enghreifftiau o arloesi cyfreithiol o fewn pob un o’r haenau sy’n ffurfio ecosystem Technoleg Gyfreithiol Cymru: busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu, cwmnïau cyfreithiol, a phrifysgolion. Rydym wedi dod ar draws cwmnïau Technoleg Gyfreithiol sy’n datblygu technoleg o’r radd flaenaf, e.e. ar gyfer adnabod cleientiaid a diwydrwydd dyladwy, yng Nghymru, sy'n elwa ar gymorth busnes sylweddol, mynediad at Lywodraeth Cymru, a chronfa o dalent leol. Rydym wedi nodi amrywiaeth o ffyrdd y mae cwmnïau cyfreithiol Cymru yn ymwneud ag arloesi, gan gynnwys drwy eu apiau neu eu pyrth eu hunain, neu drwy ddulliau newydd o ymgysylltu â chleientiaid presennol a darpar gleientiaid. Ac rydym wedi adolygu’r dirwedd sy’n tyfu’n gyflym ym maes addysg Technoleg Gyfreithiol ym mhrifysgolion Cymru, sy’n dangos enghreifftia u nodedig o fentrau a allai drawsnewid addysgu ac ymchwil. Serch y canfyddiadau addawol hyn, rydym wedi dod ar draws yr un materion a godwyd mewn ymchwil flaenorol ar arloesi a thechnoleg yng Nghymru, gan gynnwys y crynodiad o arloesi yn ne Cymru, diffyg cyfranogiad cwmnïau cyfreithiol bach a chanolig eu maint, a’r diffyg cydlyniad cyffredinol rhwng haenau amrywiol yr ecosystem. Mae’n ymddangos bod arloesi cyfreithiol, yng Nghymru, yn datblygu ar gyflymder amrywiol: yn y lôn gyflym mae busnesau newydd tarfol a chwmnïau cyfreithiol mawr yn cystadlu'n llwyddiannus ym marchnad Technoleg Gyfreithiol y Deyrnas Unedig a ledled y byd; yn y lôn araf mae cwmnïau cyfreithiol bach a chanolig eu maint, yn enwedig yn ne Cymru, sy'n edrych ar fabwysiadu Technoleg Gyfreithiol sydd ar gael yn

86

Made with FlippingBook HTML5