Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

fasnachol ond yn wynebu heriau sy'n gysylltiedig â chost a risg; ar y llain galed, mae llawer o gwmnïau cyfreithiol a busnesau eraill, yn enwedig mewn rhannau gwledig o Gymru, heb fawr ddim ymwneud, os o gwbl, ag arloesi cyfreithiol ac mae risg o'u gadael ar ôl o ran cystadleurwydd ac effeithlonrwydd. Mae’r sefyllfa hon yn gyfle unigryw i Gymru. Er bod arloesi fel arfer yn cael ei weld fel ymdrech unigol (h.y. ar lefel un cwmni, cwmni cyfreithiol, neu brifysgol) - safbwynt sy'n arwain at gyflymder datblygiad amrywiol sydd newydd eu hamlinellu -, mae'n bosibl datblygu darlun o'r arloesi ar lefel sector. Y newid hwn mewn persbectif sy'n rhoi cyfle unigryw i Gymru ddod yn arweinydd byd-eang ym maes Technoleg Gyfreithiol, gan ddefnyddio cry fderau’r ecosystem i ailgydbwyso ei gwendidau. Er mwyn cyflawni’r nod hwn, rydym wedi awgrymu dull arloesi cylchol sy’n cynnwys tri phrif beiriant cylcholdeb: arbenigedd, gwybodaeth, a'r farchnad. O fewn pob un o’r rhain, mae gallu arloesi’r sector yn cael ei wella’n fawr gan gydweithio helaeth rhwng holl haenau’r ecosystem. Mewn model o’r fath, nid oes angen i gwmni cyfreithiol, cwmni masnachol neu brifysgol unigol fod yn ymwneud ag arloesi cyfreithiol eisoes: gellir canfod ei gyfraniad mewn meysydd eraill, megis rhannu profiadau, anghenion busnes neu ddata, ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol, cymryd rhan mewn cyfleoedd hyfforddi, a mwy. Mae unrhyw fath o gydweithio, felly, yn dod yn gyfle i rannu gwybodaeth, er budd yr ecosystem gyfan, gan gefnogi twf cynaliadwy a chynhwysol mewn arloesi cyfreithiol yng Nghymru. Byddai trawsnewid Cymru yn arweinydd byd-eang ym maes Technoleg Gyfreithiol yn creu cyfleoedd unigryw ar gyfer twf economaidd, cyflogi talent leol tra chymwys, a mwy o gystadleuaeth ar gyfer y se ctor cyfan. Yn bwysicaf oll, ni fyddai’r cyfleoedd hyn yn gyfyngedig i’r busnesau newydd, cwmnïau cyfreithiol a phrifysgolion hynny sydd eisoes yn ymwneud ag arloesi cyfreithiol; yn hytrach, byddent yn cyrraedd yr holl fusnesau hynny, gan gynnwys cwmnïau c yfreithiol bach a chanolig eu maint yng nghefn gwlad Cymru, sydd hyd yma wedi’u heithrio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol rhag arloesi cyfreithiol. Mewn ffyrdd gwahanol, ond yr un mor bwysig, byddai pob rhan o ecosystem Technoleg Gyfreithiol Cymru yn cyfrannu at arloesi cyfreithiol, gan rannu ei fanteision, yn fasnachol ac o ran enw da a thwf. Fel y trafodwn yn ein hargymhellion terfynol, mae hwn yn nod uchelgeisiol, ond cyraeddadwy. Mae’n gofyn am fapio’r ecosystem yn ofalus, ynghyd â mecanweithiau ar gyfer cydweithredu a chydlynu, gan gynnwys creu canolfan Technoleg Gyfreithiol. Mae hefyd yn galw am gefnogaeth a chyfranogiad rhanddeiliaid sefydliadol, o Lywodraeth Cymru a Chyngor y Gyfraith Cymru, i Gymdeithas y Cyfreithwyr a Chyngor y Bar, Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, Bwrdd Safonau’r Bar, a mwy. Ac mae’n gofyn am gytundeb ar yr egwyddorion sy’n llywodraethu’r

87

Made with FlippingBook HTML5