EIN CRYFDERAU
EIN HYMRWYMIADAU
Mae gan ein Prifysgol lawer o gryfderau sydd wedi cyfrannu at ein llwyddiant hyd yn hyn ac rydym yn ymrwymedig i’w diogelu a’u gwella. Yn benodol, mae nifer o agweddau’n nodweddiadol o’n cymuned: • Rydym yn gymuned gynnes a chroesawgar sy’n rhoi pwyslais ar deulu. Mae ein pobl yn ganolog i’n sefydliad ac mae eu hiechyd a’u lles yn bwysig i ni. Mae gennym wobr arian Athena SWAN ac rydym wedi cael ein cydnabod gan Athena Swan a Stonewall am ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb • Mae ein safle cyson yn y 10 prifysgol orau yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr wedi’i ategu gan ein hamgylchedd diogel a gofalgar a’n hymrwymiad i wella cyflogadwyedd myfyrwyr drwy gyfleoedd i deithio, ymgymryd â lleoliadau gwaith a meithrin sgiliau newydd
Ein cryfderau yw sylfeini ein llwyddiant yn y dyfodol. Ar drothwy ein hail ganrif, rydym wedi nodi’r ymrwymiadau trosfwaol canlynol a fydd yn diffinio ein Prifysgol yn y blynyddoedd o’n blaenau. • Argyfwng yr hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf sy’n wynebu ein cymdeithas o hyd. Byddwn yn alinio ein gwaith â’r nodau Datblygu Cynaliadwy a byddwn yn brifysgol ddi-garbon erbyn 2040 • Byddwn yn ehangu ac yn dyfnhau mynediad at addysg ymhellach, gan hyrwyddo cyfleoedd dysgu gydol oes, cynhwysol a theg • Byddwn yn sicrhau ymagweddau arloesol at addysgu, wedi’u hategu gan dechnoleg ddigidol. Caiff y rhain eu datblygu mewn partneriaeth â’n myfyrwyr a byddant yn helpu i wreiddio syniadaeth ryngddisgyblaethol ar draws ein rhaglenni
• Rydym yn Brifysgol sy’n cael ei harwain gan ymchwil ac yn un o’r 10 prifysgol orau yn y DU am gydbwyso addysgu rhagorol ag ymchwil ragorol, fel y cydnabuwyd gan ein Gwobr Aur gan y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a’n perfformiad yn un o’r 30 o brifysgolion gorau yn y DU yn ôl REF2014 • Cawsom ein sefydlu gan ddiwydiant, ar gyfer diwydiant, ac mae gan ein hymchwil effaith economaidd a cymdeithasol. Rydym yn un o’r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn y DU am bwyslais ar ddiwydiant (HE-BCI 2018) ac rydym yn haeddu ein henw da am arloesi a chydweithredu • Rydym yn falch o fod yn Brifysgol i Gymru, sy’n hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg, yn ogystal â’n dylanwad ar fywyd economaidd a chymdeithasol ein rhanbarth a’n gwlad
• Byddwn yn ehangu ein cyrhaeddiad a’n henw byd-eang nes ein bod yn bartner o ddewis ar gyfer cydweithrediadau rhyngwladol ym meysydd ymchwil, addysgu a mentergarwch, a gwella ein statws yn y tablau rhyngwladol o’r prifysgolion gorau, flwyddyn ar ôl blwyddyn
• Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i wneud Dinas- ranbarth Bae Abertawe yn brifddinas chwaraeon a lles Cymru
• Byddwn yn cryfhau ein statws ymysg sefydliadau mwyaf blaenllaw’r DU am bwyslais ar effaith ac ymchwil, un sy’n rhagori mewn ymchwil ryngddisgyblaethol a chydweithredol, a byddwn yn sefydlu’r Sefydliad Uwch-astudiaethau cyntaf yng Nghymru • Byddwn yn cau’r bwlch rhwng cyflogau’r rhywiau ac yn mynd i’r afael â’r rhesymau strwythurol a gweithrediadol sy’n sail iddo, a’r gyfran isel o athrawon benywaidd
• Byddwn yn datblygu ymagwedd a roddir ar waith yn y sefydliad cyfan at fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol
AIL GANRIF AR FRIG Y DON
AIL GANRIF AR FRIG Y DON
Made with FlippingBook Proposal Creator