SEREMONÏAU SIFIL YNG NGHAERDYDD
Personoli Eich Seremoni P’un ai a ydych chi’n dymuno cynnal seremoni fach ddiffwdan neu rywbeth mwy traddodiadol, byddwn yn gwneud ein gorau i fodloni eich dymuniadau. Rydym yn fwy na hapus i drafod eich syniadau a gallwn hyd yn oed greu seremoni bwrpasol ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil a gynhelir mewn lleoliadau cymeradwy. Os bydd hyn o ddiddordeb, trafodwch hyn gyda ni yn llawn wrth i chi archebu er mwyn sicrhau y gallwn fodloni eich gofynion. YSTAFELL DEWI SANT Ar gyfer seremoni yn Ystafell Dewi Sant byddwch yn gallu dewis o ddetholiad o addunedau, darlleniadau a cherddoriaeth ond ni fydd yn bosibl i chi ysgrifennu eich addunedau eich hunain. Gallwch ddewis dod i mewn ar wahân, cael eich rhoi mewn priodas a chyfnewid modrwyon. YSTAFELL SANTES DWYNWEN Gellir teilwra’r seremoni yn Ystafell Santes Dwynwen i alluogi dod i mewn ar wahân, cael eich rhoi mewn priodas a chyfnewid modrwyon. Nid yw’n bosibl ychwanegu darlleniadau neu gerddoriaeth o’ch dewis chi, ac nid yw’n bosibl ysgrifennu eich addunedau eich hunain. YSTAFELL SWYDDFA GOFRESTRU Bydd seremoni yn ystafell y Swyddfa Gofrestru yn cynnwys y geiriau cyfreithiol yn unig a chyfnewid modrwyon os bydd gofyn.
Adeiladau Cymeradwy & Seremoniau Pwrpasol
Os ydych yn dewis seremoni mewn lleoliad cymeradwy bydd dewis eang o gyflwyniadau, addunedau, geiriau diweddglo, darlleniadau a chael cerddoriaeth fyw neu gerddoriaeth wedi’i recordio. Mae’n bosibl y byddwch yn dymuno ysgrifennu eich addunedau eich hunain neu ddarparu eich darlleniadau eich hunain, ond bydd angen i ni eu cymeradwyo ymlaen llaw. Os bydd gennych ddiwrnod priodas perffaith mewn golwg, neu os hoffech chi gynnal elfennau o’ch priodas neu ddathliad yn yr awyr agored neu hyd yn oed mewn lleoliad penodol nad yw’n drwyddedig ar gyfer priodasau, ffoniwch ni ar 029 2087 1680/4 neu e-bostiwch Ceremonies@ caerdydd.gov.uk a bydd aelod o’n tîm yn hapus i drafod sut mae gwneud hynny. Oriau agor ein swyddfa yw dydd Llun i ddydd Iau 8.30am – 4.00pm a dydd Gwener 9.00 – 4.00pm. Priodi Mewn Eglwys Neu Adeilad Crefyddol Arall Os ydych yn cynllunio priodas mewn eglwys, yn gyntaf mae’n rhaid i chi gael caniatâd y gweinidog neu’r corff llywodraethu cyn y gallwch wneud unrhyw drefniadau eraill. Os ydych yn dymuno priodi yn yr Eglwys yng Nghymru neu yn Eglwys Lloegr – ac yn gyffredinol byddwch ond yn gallu gwneud hynny os ydych chi a’ch partner yn byw yn y plwyf – dylech siarad â’r ficer yn gyntaf.
Sacha Miller
Os yw’n gallu eich priodi, bydd yn trefnu i ostegion gael eu galw ar dri dydd Sul cyn diwrnod eich seremoni neu i drwydded gyffredin gael ei dosbarthu ac yn gyffredinol ni fydd angen cynnwys y swyddfa gofrestru. Os yw y naill neu’r llall ohonoch chi heb fod yn wladolyn yr AEE, ni fyddwch yn gallu priodi ar ôl galw’r gostegion neu drwy drwydded gyffredin a bydd rhaid i chi roi hysbysiad o’ch bwriad i briodi trwy fod yn bresennol gyda’ch gilydd mewn Swyddfa Gofrestru Ddynodedig. Os byddwch yn priodi mewn unrhyw eglwys arall neu adeilad crefyddol bydd angen i chi roi hysbysiad o briodi i Uwcharolygydd Gofrestrydd yr ardal lle rydych yn byw neu mewn Swyddfa Gofrestru Ddynodedig gyda’ch gilydd os yw’r naill neu’r llall ohonoch heb fod yn wladolyn yr AEE. Mae rhai eglwysi, ond nid yr Eglwys yng Nghymru / Eglwys Lloegr yn gofyn bod cofrestrydd yn bresennol mewn priodas ond mae gan rai eraill eu person awdurdodedig eu hunain. Os bydd gofyn am gofrestrydd fod yn bresennol yn eich seremoni dylech chi archebu hyn gyda ni mor bell ymlaen llaw â phosibl.
18
Made with FlippingBook - Online Brochure Maker