• Cynyddu ein cydweithrediad a’n cefnogaeth i Academi Heddwch Cymru, y mae’r Brifysgol yn bartner iddi, i wreiddio heddwch a hybu heddwch yn yr agenda ymchwil a pholisi yng Nghymru. • Cynyddu ein gweithgareddau ehangu cyfranogiad cyfrwng Cymraeg a’n darpariaeth i grwpiau a dangynrychiolir. • Datblygu ymhellach ein gwaith ymgysylltu â graddedigion, cyn-fyfyrwyr a Chymrodorion er Anrhydedd cyfrwng Cymraeg y Brifysgol, er mwyn darparu lleoliadau gwaith posibl i fyfyrwyr ac amlygu’r llwyddiannau maent wedi eu cyflawni yn eu gyrfaoedd oherwydd eu dwyieithrwydd neu eu hamlieithrwydd. • Ymrwymo i ddathlu’r Gymraeg yn nodau ein Cenhadaeth Ddinesig. ERBYN 2027 BYDDWN YN: • Gwreiddio’r Gymraeg yn nodau ein Cenhadaeth Ddinesig. • Codi proffil, enw da a dealltwriaeth y cyhoedd o effaith mentrau Ymchwil ac
Arloesedd Prifysgol Abertawe, gan ddenu cydweithredu pellach â rhanddeiliaid a gwneud y mwyaf o’n gallu i sicrhau gwerth ychwanegol trwy ein dwyieithrwydd. • Cefnogi a chyfrannu at amcanion Degawd Rhyngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO 2022-32 drwy dynnu ar ein harbenigedd rhyngddisgyblaethol i sicrhau bod ieithoedd brodorol, a’r Gymraeg yn arbennig, yn cael eu cadw, eu hadfywio a’u hyrwyddo ledled y byd. • Elwa ar gynyddu ein cysylltiadau â Chymry dramor er budd dysgu, ymchwil a chymuned y Brifysgol. • Sicrhau rhagor o gefnogaeth gan y Brifysgol, y llywodraeth a’r awdurdod lleol ar gyfer T ^ y’r Gwrhyd, er mwyn sicrhau ei fod yn weithredol o hyd ar ôl 2026. • Datblygu ymhellach ein hopsiynau cyllido dyngarol â’r nod o gynnig Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi ar ôl 2027.
Piler 4: Cefnogi ein Hymchwil a’n Cenhadaeth Ddinesig
Mae llawer o’n hymchwil wedi’i wreiddio yn iaith, hanes a diwylliant Cymru, o brosiectau adfywio ar sail treftadaeth a dealltwriaeth o lenyddiaeth Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg, i lunio polisi ac archwilio a hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith fyw. Rydym hefyd yn cydnabod bod ein gweithgareddau ymchwil a mentergarwch yn cefnogi ein Cenhadaeth Ddinesig yng Nghymru a thu hwnt a’n nod yw sicrhau bod gwaith yn parhau i gael ei alluogi a’i atgyfnerthu gan y Gymraeg.
• Sicrhau bod myfyrwyr ac ymchwilwyr Prifysgol Abertawe sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael pob cyfle i fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan Raglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol (ILEP) newydd Llywodraeth Cymru a galluogi mwy o gyfnewid diwylliannol â myfyrwyr o bob rhan o’r byd, yn enwedig yng nghyd-destun ieithoedd lleiafrifol. • Cryfhau ein cydweithio â chyrff Cymraeg megis Menter Iaith Abertawe, Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot, Mudiad Meithrin, Urdd Gobaith Cymru, ac ymgysylltu â phartneriaid newydd er mwyn archwilio cyfleoedd wedi’u hysgogi gan rannu ieithoedd, diwylliannau, profiadau a threftadaeth. • Cynyddu ein gweithgareddau cenhadaeth ddinesig a’n gwaith ymgysylltu cyfrwng Cymraeg drwy ddigwyddiadau cenedlaethol a gweithgareddau cymunedol, gan ymgorffori’r iaith a chynnwys Cymraeg dilys ymhellach yn nigwyddiadau blynyddol y Brifysgol. • Parhau i gymryd rhan – mewn ffyrdd deinamig ac arloesol – mewn gwyliau cenedlaethol gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Eisteddfod yr Urdd a Thafwyl er mwyn arddangos doniau creadigol ac ymchwil arloesol y Brifysgol.
ERBYN 2024 BYDDWN YN: • Datblygu ymhellach ein cymuned ymchwil Gymraeg a dwyieithog gyhoeddus a nodi cyfleoedd i greu ymchwil sy’n cael effaith ar y cyd â’n myfyrwyr a’n rhanddeiliaid allanol yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. • Atgyfnerthu rhwydwaith rhyngddisgyblaethol a rhyngwladol Canolfan Richard Burton a Chanolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru (CREW) er mwyn cyflwyno ymhellach weithgareddau ymchwil arloesol a dylanwadol dwyieithog sy’n hyrwyddo datblygiad diwylliannol, yn llywio polisi cyhoeddus, ac yn darparu dealltwriaeth ddyfnach o le Cymru ar y llwyfan byd-eang. • Sicrhau bod ymchwil a gaiff ei gyflawni yn Gymraeg neu’n ddwyieithog yn cael ei arwain yn strategol a’i fapio’n gynhwysfawr ar draws y sefydliad, a bod pob gweithgaredd ymchwil cyfrwng Cymraeg yn cael ei gydnabod yng nghofnodion datblygiad proffesiynol unigol academyddion. • Gan adeiladu ar ein cyflwyniadau i REF 2014 a 2021, byddwn yn annog ac yn cefnogi ein hymchwilwyr i gynnal ymchwil pellach a chwblhau mwy o gyhoeddiadau yn Gymraeg gyda’r bwriad o gyflwyno nifer uwch o gyhoeddiadau Cymraeg mewn ymarferion rhagoriaeth ymchwil yn y dyfodol.
Made with FlippingBook Digital Publishing Software