Welsh Language and Culture Strategy Cymraeg

Rhagarweiniad

Mae’n bleser mawr gennyf gyflwyno’r Strategaeth newydd hon ar gyfer y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n amlinellu ein huchelgeisiau a’n dyheadau i sicrhau lle blaenllaw i’r Gymraeg yn ein sefydliad ac yn ein cymuned. Mae ein graddedigion yn cyfrannu’n sylweddol at amrywiaeth o sectorau ledled Cymru a’r tu hwnt, a’n nod yw sicrhau bod cyfleoedd iddynt baratoi ar gyfer y gyrfaoedd hynny drwy astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a dod i gysylltiad â’r iaith beth bynnag eu cefndir neu eu maes astudio. Dyma ein huchelgais ar gyfer ein cydweithwyr hefyd, yn unol â’n hymrwymiad i fuddsoddi yn ein pobl. Mae ein Prifysgol yn falch o fod yn lle cynhwysol a chroesawgar i astudio a gweithio ynddo, ac yn lle sy’n parchu ac yn dathlu diwylliannau amrywiol. Yn y bôn, Prifysgol sydd a’i gwreiddiau yng Nghymru a Phrifysgol i Gymru ydym ni, ac rydym yn dathlu ein treftadaeth a’n diwylliant Cymreig. O’r gwreiddiau cadarn hyn, ac yn ôl arwyddair y Brifysgol, “Gweddw crefft heb ei dawn”, rydym yn codi’n golygon yn hyderus i gynrychioli Cymru, a’r oll sydd ganddi i’w gynnig, ar lwyfan byd-eang. Mae’r Strategaeth hon yn cydweddu â Gweledigaeth Strategol a Phwrpas y Brifysgol (2020) yn enwedig â’n hymrwymiad i ehangu’r ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a chael profiad o’r Gymraeg. Wedi’r cyfan, mae gan ein Prifysgol enw da am ragoriaeth mewn addysgu, ymchwil arloesol, cyrhaeddiad rhyngwladol, a phrofiad eithriadol i fyfyrwyr sy’n rhoi’r sgiliau i’n graddedigion i’w galluogi i lwyddo’n bersonol ac yn broffesiynol.

Mae’r Strategaeth hon yn datgan ein hymrwymiad i alluogi ein staff i ymgysylltu â’r iaith fel ffordd o feithrin sgil ychwanegol ar gyfer y gweithle ac fel porth at gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd yn y gwaith ac yn y gymuned. Gan fynd i’r afael â thargedau Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ac amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, byddwn yn ehangu ein rôl sefydliadol, ein hamlygrwydd a’n dylanwad er mwyn sicrhau mai Prifysgol Abertawe yw prif ysgogwr newid mewn perthynas â hyrwyddo agenda’r Gymraeg yn ein cymunedau. Mae’r Strategaeth hon yn cydnabod gwir natur Cymru’r unfed-ganrif-ar-hugain gyda’i dwy iaith swyddogol a’i chymdeithas aml-ddiwylliannol ac aml-ethnig. Mae’n amlygu ein bwriad i sicrhau bod pawb sydd yn ymweld neu yn byw, yn astudio neu’n gweithio yng Nghymru yn medru profi popeth sydd gan y genedl unigryw hon i’w gynnig yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd y Strategaeth hon yn sicrhau bod y Gymraeg, ei diwylliant a’i threftadaeth yn rhan annatod o’r profiadau ffurfiannol hynny ar gyfer ein holl fyfyrwyr, a bod ein siaradwyr Cymraeg yn elwa’n llawn ar astudio mewn prifysgol sydd â chysylltiadau amlddiwylliannol a rhyngwladol gwerthfawr.

Yr Athro Elwen Evans CF, Dirprwy Is-ganghellor Y Gymraeg a’i Diwylliant

Made with FlippingBook Digital Publishing Software