Welsh Language and Culture Strategy Cymraeg

datblygu lle bo angen, yn ogystal ag asesu’n gywir – a recriwtio’n effeithiol – y sgiliau Cymraeg y mae eu hangen ar gyfer swyddi newydd ac wrth ail-benodi i swyddi mewn meysydd allweddol. Dros y blynyddoedd, rydym wedi meithrin partneriaethau a rhwydweithiau allanol ardderchog er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant. Mae ein cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wrth wraidd ein strategaeth a’n gwaith o ddydd i ddydd. Ond mae ein gwaith hefyd yn cynnwys cefnogi a datblygu prosiectau gyda’n gwyliau cenedlaethol – yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod yr Urdd a Thafwyl. Rydym yn cynnal cysylltiadau agos ag ysgolion Cymru ac Awdurdodau Lleol yn rhanbarth y Brifysgol. Mae meithrin cymuned yn allweddol i’n llwyddiant fel prifysgol, ac ni all ein cymuned ar ein dau gampws lwyddo heb gysylltiadau agos â’n cymunedau yn ne-orllewin Cymru. O ganlyniad, rydym yn diogelu ac yn cynnal a chadw’r berthynas â’n cymunedau Cymraeg sydd o fudd i’r ddwy ochr, ac yn adeiladu ar y berthynas honno er mwyn cyrraedd y cymunedau di-Gymraeg lleol y mae llawer ohonynt yn gymunedau amlddiwylliannol, gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig, ac yn sicrhau bod y Gymraeg yn perthyn iddynt hwy hefyd. Rydym hefyd yn llwyddiannus wrth gynnal perthnasoedd buddiol â sefydliadau cenedlaethol Cymru, gan gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru, Urdd Gobaith Cymru, BBC Cymru ac S4C, a sefydliadau, elusennau a busnesau lleol sy’n rhannu’r nod o weithredu er lles y Gymraeg. Felly, mae sylfaen gadarn gan y Strategaeth hon a’r Gymraeg yn y sefydliad, a’n nod yn ystod y pum mlynedd nesaf yw symud ymlaen, adeiladu ymhellach ar y sylfeini hynny er mwyn sicrhau cynnydd parhaus, a chymryd ein lle yn hyderus ymhlith y prifysgolion hynny yng Nghymru sy’n croesawu, yn dathlu ac yn hyrwyddo’r Gymraeg a Chymreictod.

i gefnogi ein myfyrwyr ymhellach yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol. Mae ein holl staff a’n myfyrwyr hefyd yn cael budd o wasanaethau a darpariaeth y canolfannau Cymraeg lleol, T ^ y Tawe a Th ^ y’r Gwrhyd. Drwy waith ein huned Dysgu Cymraeg: Ardal Bae Abertawe, mae cannoedd o bobl yn ymuno â’n cyrsiau yn y gymuned ac yn y gweithle bob blwyddyn er mwyn dysgu’r iaith, ac ers i ni gyflwyno cyrsiau ar-lein a chyrsiau cyfunol, cafwyd cynnydd pellach yn y niferoedd sy’n dewis dysgu’r iaith gartref mewn gwledydd ym mhedwar ban byd. Er mwyn estyn croeso cynnes i fyfyrwyr rhyngwladol, rydym yn cynnig cyfle iddynt ddysgu’r iaith a phrofi diwylliant Cymru wrth ymateb i’w hawydd amlwg i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle i gael blas ar fywyd yng Nghymru yn ystod eu hamser yma. Mae ein rhagoriaeth addysgu yn cyd-fynd â’n henw da rhyngwladol am ymchwil, gyda llawer ohono wedi’i wreiddio yn iaith, hanes a diwylliant Cymru, o brosiectau adfywio wedi’u harwain gan dreftadaeth a deall llenyddiaethau Cymru yn Saesneg a Chymraeg, i lunio polisïau ac archwilio a hyrwyddo Cymraeg fel iaith lewyrchus. Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i Reoliadau 2017 Safonau’r Gymraeg (Rhif 6), a ddaeth i rym yn y Brifysgol yn 2018. Mae’r Safonau wedi hwyluso datblygiad sylweddol wrth ddarparu gwasanaethau Cymraeg rheng flaen, a hawliau myfyrwyr i dderbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n ategu datblygiadau Cymraeg yn y ddarpariaeth academaidd. Mae gwasanaethau Cymraeg ar gyfer aelodau’r cyhoedd sy’n rhyngweithio â’r Brifysgol wedi gwella’n sylweddol hefyd, ac mae hawliau staff sy’n siarad Cymraeg yn cael eu hyrwyddo a’u hwyluso. Er bod y sylfeini cychwynnol o ran Safonau’r Gymraeg ar waith bellach, mae angen rhoi sylw i wreiddio’r Gymraeg ymhellach ar draws gwasanaethau’r Brifysgol, gan wella gallu timau i weithio’n ddwyieithog o’r dechrau’n deg. Bydd hyn yn cynnwys gwerthfawrogi ac annog lefelau sgiliau Cymraeg y staff presennol, darparu’r lefel angenrheidiol o gymorth i’w

Cyd-destun strategol

Mae gan ein Prifysgol draddodiad cryf o addysgu’r Gymraeg ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Sefydlwyd Adran y Gymraeg ym 1921 fel un o’n disgyblaethau sefydlol ac mae wedi bodoli’n barhaus ers hynny, gan arwain yn rhyngwladol mewn amrywiaeth o feysydd ymchwil dros y degawdau. Ers sefydlu Academi Hywel Teifi yn 2010 er mwyn gwireddu ein huchelgais i ehangu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg, rydym wedi sicrhau bod amrywiaeth eang o gyrsiau a rhaglenni ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Er mwyn cyflymu’r datblygiadau hyn, rydym yn gweithio’n effeithiol ac yn agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac, o ganlyniad, rydym bellach yn cynnig mwy na 21 pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg, o’r Gyfraith i Feddygaeth, Hanes i Fiocemeg, a’r Cyfryngau i Waith Cymdeithasol. Yn ystod y degawd diwethaf,

gwelwyd twf o 135% yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio traean o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym hefyd yn gweithio’n galed i sefydlogi ac ehangu’r hyn sydd ar gael i fyfyrwyr, gan ychwanegu pynciau newydd megis Addysg, Gwyddor Barafeddygol a Fferylliaeth at y ddarpariaeth. Mae Abertawe yn brifysgol sy’n falch o’i gwreiddiau, gan hyrwyddo ei Chymreictod a chynnig croeso Cymreig i fyfyrwyr ni waeth o ble maent yn dod. Mae cymdeithas Gymraeg fywiog ar y campws ac yn y gymuned leol, ac mae myfyrwyr yn elwa’n sylweddol o fyw mewn llety i siaradwyr Cymraeg ar ein campysau, sef Aelwyd Penmaen ar Gampws Singleton ac Aelwyd Emlyn ar Gampws y Bae. Mae Swyddog Materion y Gymraeg Undeb y Myfyrwyr a’r Gymdeithas Gymraeg weithgar yn sicrhau amrywiaeth o gyfleoedd a chynlluniau

Made with FlippingBook Digital Publishing Software