Welsh Language and Culture Strategy Cymraeg

Mae’r strategaeth hon yn cydweddu â’r uchelgeisiau a nodwyd yn y ddogfen Prifysgol Abertawe: Ein Gweledigaeth Strategol a’n Pwrpas (2020), ac yn benodol â’r gydnabyddiaeth ein bod yn angor diwylliannol ac economaidd yn ein cymuned sydd â rôl arbennig i’w chwarae wrth ysgogi datblygiad rhanbarthol a hybu iechyd a lles, ac rydym yn falch o fod yn gadarnle iaith, treftadaeth a diwylliant Cymru ar draws ein pum piler allweddol: EIN CENHADAETH DDINESIG: Rydym yn cyfrannu at fywyd diwylliannol ein cymuned drwy ein Theatr Taliesin, y Neuadd Fawr a’r Ganolfan Eifftaidd, ein Llyfrgell Glowyr De Cymru ac Archifau Richard Burton, tra bod T ^ y’r Gwrhyd, sef ein Canolfan Gymraeg yng Nghwm Tawe, yn cefnogi ei chymuned drwy hyrwyddo’r Gymraeg. PROFIAD EIN MYFYRWYR: Byddwn yn sicrhau y bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i ddysgu rhagor am ein treftadaeth a’n diwylliant Cymraeg a chael profiad o’r rhain, ac y caiff gwasanaethau ar gyfer myfyrwyr eu darparu’n ddwyieithog yn unol â Safonau’r Gymraeg. EIN DYSGU AC ADDYSGU: Rydym yn parchu hawl myfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a byddwn yn ehangu ein hystod o gyfleoedd iddynt wneud hynny a gwella eu cyflogadwyedd yn sgîl hynny. EIN HYMCHWIL: Rydym yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth â’n cymunedau lleol ac â chymunedau ledled y byd, gan ddysgu ganddynt wrth i ni eu cefnogi i ddatblygu. EIN MENTERGARWCH: Byddwn yn hyrwyddo Cymru fel lleoliad sy’n ysgogi ac yn gwobrwyo ymchwil ac arloesi cydweithredol, gan ddenu mewnfuddsoddiad rhyngwladol i’r rhanbarth.

Er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, rydym wedi canolbwyntio yn y Strategaeth hon ar bedwar piler allweddol .

1. DIWYLLIANT

EIN PRIFYSGOL, gan sicrhau bod ein Prifysgol yn gartref i gymuned o fyfyrwyr a staff amlieithog ac amlddiwylliannol sy’n groesawgar ac yn ffyniannus;

2. PROFIAD Y DYSGWR, gan feithrin amgylchedd cefnogol sy’n helpu pawb

Mesurau llwyddiant

sy’n dysgu Cymraeg i wneud cynnydd, beth bynnag yw lefel eu gallu;

ERBYN 2027 BYDDWN WEDI: 1. Cyfrannu’n ystyrlon at uchelgais Llywodraeth Cymru i greu miliwn o bobl sy’n siarad Cymraeg erbyn 2050, drwy alluogi’r holl fyfyrwyr a staff i ddysgu Cymraeg ac i feithrin perthynas ystyrlon â diwylliant a threftadaeth Cymru. 2. Rhoi proses gadarn ar waith i gynllunio’r gweithlu, er mwyn datblygu ymhellach nod y sefydliad o fod yn Brifysgol ddwyieithog. 3. Codi proffil y Gymraeg a’r gymuned Gymraeg yn y Brifysgol a chydnabod cyflawniadau unigolion sy’n gweithio i hyrwyddo’r amcan hwn. 4. Cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n dewis ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg i 750. 5. Gwella ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws y disgyblaethau ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, a hyrwyddo ymagwedd ryngddisgyblaethol.

6. Atgyfnerthu ein henw fel darparwr allweddol addysg Gymraeg a dwyieithog, gan ddod yn gyrchfan o ddewis ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith. 7. Cynyddu nifer y cyfleoedd cyflogadwyedd dwyieithog i fyfyrwyr, â’r nod o feithrin gweithlu dwyieithog hynod fedrus yng Nghymru. 8. Cynyddu ein rhagoriaeth mewn ymchwil sy’n ymwneud â Chymru, gan ddarparu ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog, a thrwy ein cyfraniad at astudiaethau sy’n creu effaith ac sy’n llywio polisi cenedlaethol yng Nghymru. 9. Cynyddu ein cysylltiadau â Chymry dramor, a dathlu ein cyfoethogrwydd a’n hamrywiaeth ddiwylliannol gartref a thramor.

3. GWREIDDIO’R GYMRAEG LEDLED Y BRIFYSGOL, gan ein galluogi i gydymffurfio â gofynion rheoliadau Safonau’r Gymraeg y Brifysgol a rhagori arnynt, a

4. CHEFNOGI EIN HYMCHWIL A’N

CENHADAETH DDINESIG, gan gydnabod gwerth y Gymraeg i’n hymchwil a’n gweithgareddau arloesi, a’i heffaith ar ein Cenhadaeth Ddinesig.

Made with FlippingBook Digital Publishing Software