Welsh Language and Culture Strategy Cymraeg

Piler 1: Diwylliant ein Prifysgol

Ein nod yw atgyfnerthu’r ffyrdd rydym yn hyrwyddo statws Cymraeg a dwyieithog Prifysgol Abertawe, gan sicrhau bod ein Prifysgol yn gartref i gymuned amlieithog ac amlddiwylliannol sy’n groesawgar ac yn ffyniannus.

• Gweithio gyda swyddogion llawn amser a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr ac asiantaethau allanol lleol i ddarparu amgylchedd dwyieithog sy’n amrywiol, yn gynhwysol ac yn groesawgar, sydd hefyd yn gallu cynnig cyfleoedd Cymraeg estynedig i fyfyrwyr sy’n eu dymuno. ERBYN 2027 BYDDWN YN: • Cryfhau amlygrwydd y Gymraeg ar draws y Brifysgol a phwysleisio ei phwysigrwydd yn ein gweithgareddau bob dydd i staff, myfyrwyr a’r cyhoedd. • Sicrhau y caiff staff eu cydnabod a’u gwobrwyo am eu hymrwymiad i’r Gymraeg drwy broses Adolygiad Datblygiad Proffesiynol y Brifysgol ac ymgyrchoedd mewnol sy’n eich annog i ‘Ddefnyddio eich Cymraeg’. • Sefydlu rhaglen i academyddion sy’n dysgu Cymraeg i’w helpu i feithrin eu hyder i addysgu yn Gymraeg. • Datblygu mesurau i arddangos a dathlu effaith y Gymraeg ar lwyddiant ein Prifysgol mewn meysydd megis recriwtio myfyrwyr, cadw myfyrwyr, dilyniant a chyflogaeth; ymchwil a chysylltiadau byd-eang; proffil diwylliannol a chenhadaeth ddinesig.

ERBYN 2024 BYDDWN YN: • Cryfhau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth staff a myfyrwyr o’u hawliau iaith Gymraeg yn y Brifysgol. • Galluogi’r holl staff i gael profiad o’r Gymraeg drwy gyfleoedd i ddysgu am ddim

yn ystod oriau gwaith a thrwy ddarparu mannau i gymdeithasu yn Gymraeg.

• Sicrhau bod dysgwyr a siaradwyr rhugl yn integreiddio’n well, hybu unigolion i fod yn fwy hyderus yn eu galluoedd, a hyrwyddo rhagor o gyfleoedd i staff ddefnyddio eu sgiliau yn y gweithle. • Cefnogi staff i amlygu a rhoi gwybod am eu sgiliau Cymraeg, a’u defnyddio. • Cryfhau ein rhwydwaith staff academaidd Cymraeg drwy Academi Hywel Teifi a changen Abertawe y Coleg Cymraeg. • Gweithio gyda’r Gwasanaethau Datblygu a Hyfforddiant i ddatblygu cwrs hyfforddiant mewnol gorfodol i staff ynghylch ymwybyddiaeth iaith a diwylliant Gymraeg (gan gynnwys gwybodaeth am ofynion cydymffuriaeth â Safonau’r Iaith Gymraeg), yn enwedig wrth iddynt ymuno â’r sefydliad.

• Darparu rhagor o gyfleoedd i gyflwyno hanes a diwylliant Cymru i’r holl staff.

• Darparu hyfforddiant ar gyfer swyddi arweinyddiaeth ledled y Brifysgol i gynnwys pob agwedd ar ymwneud ag iaith a diwylliant Cymru, er mwyn galluogi ein harweinwyr i gefnogi staff a myfyrwyr yn well.

Made with FlippingBook Digital Publishing Software