E R T H Y G L
E R T H Y G L
£6 MILIWN AR GYFER TECHNOLEG SOLAR Y GENHEDLAETH NESAF
Bydd grant gwerth £6 miliwn yn ysgogi’r broses o ddefnyddio technoleg solar y genhedlaeth nesaf mewn ffyrdd newydd. Bydd grwpiau ymchwil o fri rhyngwladol o Brifysgol Abertawe, Coleg Imperial Llundain a Phrifysgol Rhydychen yn cydweithio i ddatblygu defnyddiau o gelloedd solar perofsgit ac organig nad yw technolegau solar presennol yn addas ar eu cyfer. Mae perfformiad y technolegau newydd hyn yn gallu cystadlu â dewisiadau cyfredol, ond maent yn fwy hyblyg, yn fwy ysgafn, yn rhatach i’w cynhyrchu, a gellir eu hargraffu’n uniongyrchol ar gynhyrchion wrth iddynt gael eu gweithgynhyrchu. Felly, maent yn addas ar gyfer defnyddiau newydd megis: 5G, sy’n defnyddio ffynonellau ynni hynod ysgafn ar gyfer lloerennau ffug a cherbydau awyr di-griw sy’n gweithredu ar uchder; Y Rhyngrwyd Pethau, lle mae synwyryddion yn cael eu gosod mewn eitemau pob dydd; Adeiladau a cherbydau di-garbon, a allai ddefnyddio eu toeon, eu waliau a’u ffenestri er mwyn cynhyrchu ynni. Y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) sy’n darparu’r grant. Bydd y tîm yn ei ddefnyddio er mwyn cyflwyno gwyddoniaeth a pheirianneg sylfaenol sy’n ategu’r technolegau hyn; datblygu dulliau gweithgynhyrchu carbon isel, rhad a fydd yn golygu y gellir eu cynhyrchu ar y raddfa briodol; a chreu prototeipiau.
Enw’r rhaglen ymchwil yw Defnyddiau Ffotofoltäig Penodol ac Integredig (ATIP). Fe’i harweinir gan Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Chanolfan Deunyddiau Lled-ddargludydd Integreiddiol (CISM) newydd y Brifysgol, CPE (Centre for Processable Electronics) yng Ngholeg Imperial Llundain, ac Adran Ffiseg Prifysgol Rhydychen. Mae hefyd yn cynnwys 12 o bartneriaid diwydiant o rannau gwahanol o’r gadwyn gyflenwi. Meddai’r Athro James Durrant FRS, o SPECIFIC, a fydd yn arwain y rhaglen: “Mae’r ffaith bod EPSRC wedi dewis dyfarnu’r Grant Rhaglen hwn yn dangos arbenigedd ein tîm a chryfder y DU yn y maes hwn. Gyda’r tair canolfan flaenllaw hyn yn cydweithio, byddwn yn gallu cyflwyno technolegau solar y genhedlaeth nesaf o’r labordy i’r byd go iawn yn gyflymach, er lles y DU a gweddill y byd.”
ASTUDIAETH YN DANGOS ARFERION HEDFAN CONDORIAID
Ffotograffydd: Facundo Vital
Yn hytrach na chwifio eu hadenydd er mwyn symud yn yr awyr, mae’r adar mwyaf yn defnyddio ceryntau aer i’w cadw yn yr awyr am oriau ar y tro. Mae condor yr Andes – sef aderyn esgynnol trymaf y byd, a all bwyso hyd at 15kg – yn chwifio ei adenydd un y cant o’r amser y mae yn yr awyr. Daethpwyd i’r casgliad hwn mewn astudiaeth a oedd yn rhan o gydweithrediad rhwng yr Athro Emily Shepard o Brifysgol Abertawe a Dr Sergio Lambertucci yn Ariannin. Gwnaethant ddefnyddio technoleg recordio yn yr awyr o’r radd flaenaf ar gondoriaid yr Andes er mwyn cofnodi pob curiad adain ac achos o droi a throelli wrth i gondoriaid chwilio am fwyd. Roedd y tîm am wybod am y ffordd y mae ymdrechion hedfan adar yn amrywio yn ôl amgylchiadau amgylcheddol. Bydd eu casgliadau’n helpu i wella dealltwriaeth o allu adar mawr i esgyn a’r amgylchiadau penodol sy’n gwneud hediad yn anfanteisiol. Darganfu’r ymchwilwyr fod mwy na 75 y cant o weithgarwch chwifio’r condoriaid yn ymwneud â’r esgynfa. Fodd bynnag, ar ôl iddynt gyrraedd yr awyr, gall condoriaid barhau i esgyn am gyfnodau hir mewn amrywiaeth o wyntoedd ac amgylchiadau thermol – llwyddodd un aderyn i beidio â chwifio ei adenydd am bum awr, gan deithio tua 172km neu fwy na 100 milltir. Meddai Dr Hannah Williams, sydd bellach yn Sefydliad Ymddygiad Anifeiliaid Max Planck: “Wrth wylio adar o farcutiaid i eryrod yn hedfan, efallai y byddwch yn amau a ydynt yn chwifio eu hadenydd o gwbl. Mae’r cwestiwn hwn yn bwysig, gan fod damcaniaethau’n dweud wrthym y bydd adar mor fawr â chondoriaid yn ddibynnol ar esgyn er mwyn symud. “Datgelodd ein canlyniadau nad oedd nifer y weithiau roedd yr adar yn chwifio eu hadenydd yn newid yn sylweddol yn ôl y tywydd. Mae hyn yn awgrymu bod penderfyniadau ynghylch ble a phryd i lanio yn hanfodol, gan fod angen i gondoriaid esgyn i’r awyr eto, a bod glanio’n ddiangen yn ychwanegu’n sylweddol at ymdrech gyffredinol yr hediad.”
Un o’r celloedd solar perofsgit hyblyg
Yr Athro Emily Shepard
Ms Nasim Zarrabi, o Brifysgol Abertawe, yn gweithio ar fodiwlau solar gyda blwch menig
10 | Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe
Made with FlippingBook - Online Brochure Maker