PhD, Ysgol Ieithoedd Modern, Cyfieithu A Chyfieithu Ar Y Pryd
Roeddwn yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe bum mlynedd ar hugain yn ôl gan raddio gyda Dosbarth Cyntaf mewn Ffrangeg a Chymraeg! Mae atgofion bendigedig gen i o fy nyddiau fel myfyriwr israddedig yma. Yna cyflawnais Ddiploma ôl-raddedig yn y Gyfraith gyda Phrifysgol Morgannwg. Treuliais i bum mlynedd yn Adran Adnoddau Dynol Coleg Castell-nedd Port Talbot ac wedyn ar ôl penderfynu mynd yn rhan amser i fagu teulu, llwyddais i gael swydd fel cyfieithydd rhan amser yn y Coleg yn 2006 ac rwyf wrth fy modd yn dal i wneud yr un swydd heddiw. Wrth i’r plant dyfu, dechreuais feddwl o ddifrif am ddychwelyd i addysg ac ar yr un pryd, gwelais yr hysbyseb am ysgoloriaeth ym maes yr anghyfieithadwy a phenderfynais achub ar y cyfle perffaith ac ymgeisio. Roeddwn i wrth fy modd i ennill ysgoloriaeth a ariennir gan Brifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Wrth gyfuno’r ysgoloriaeth gyda gwaith rhan amser, mae hyn yn fy ngalluogi i astudio heb effeithio ar fywyd teuluol ac rydw i’n ddiolchgar dros ben. Heb y gefnogaeth ariannol ni fyddai modd i mi gyflawni fy PhD ar hyn o bryd. Teitl fy noethuriaeth yw Gwir Arwyddocâd yr Anghyfieithadwy parthed y Gymraeg: Ymagwedd
Gyfannol o’r Theori i’r Gweithle. Rydw i’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae hyn yn ddewis naturiol i mi ar ôl astudio fy ngradd israddedig trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd ysgrifennu’r PhD trwy gyfrwng y Gymraeg yn un o amodau'r ysgoloriaeth ond yn bwysig iawn i mi yn bersonol hefyd. Mae Prifysgol Abertawe yn lle ffantastig heb unrhyw amheuaeth! Mae'r cyfleusterau o’r radd flaenaf. Mae’r llyfrgell yn cynnig gwasanaeth ffantastig ar-lein a llyfrgellwyr cymwynasgar. Cynhaliwyd nifer o sesiynau hyfforddi yn ddiweddar ac roeddwn i wrth fy modd i allu gwneud sawl un trwy gyfrwng y Gymraeg e.e. cyfeirnodi. Ac wrth gwrs, mae lleoliad y Brifysgol heb ei ail! Mae haenau amrywiol i fy uchelgais mewn gwirionedd. Hoffwn ysgrifennu darn o waith dylanwadol o safon uchel. Yn fwy na dim, hoffwn wneud cyfraniad at ymchwil Cymraeg gan godi proffil yr iaith a diddordeb ym maes cyfieithu a dwyieithrwydd yng Nghymru. Erbyn diwedd y PhD, hoffwn deimlo fel fy mod wedi llwyddo i wneud rhyw fath o gyfraniad gwreiddiol at y maes a mân gyfraniad at ddyfodol ymchwil Cymraeg yn gyffredinol.
Roedd ysgrifennu’r PhD trwy gyfrwng y Gymraeg yn un o amodau’r ysgoloriaeth ond yn bwysig iawn i mi yn bersonol hefyd. Mae Prifysgol Abertawe yn lle ffantastig heb unrhyw amheuaeth!
98
Made with FlippingBook flipbook maker