Ysgoloriaethau a gwobrau rhagoriaeth ymchwil Fel rhan o ymrwymiad Abertawe i gefnogi’r dalent ymchwil gorau rydym yn cynnig nifer o leoedd PhD wedi’u hariannu’n llawn ar draws disgyblaethau trwy ein rhaglenni blaenllaw, Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Abertawe (SURES) ac Ysgoloriaethau Ymchwil Partner Strategol Prifysgol Abertawe (SUSPRS). Mae’r ddwy ysgoloriaeth yn cynnig nifer o leoedd PhD wedi’u hariannu’n llawn i ymchwilwyr sydd am ddatblygu eu syniadau, ochr yn ochr â darparu goruchwyliaeth ragorol a rhoi’r sgiliau i ymchwilwyr doethurol gwblhau eu traethawd ymchwil o fewn tair blynedd. Mae SURES yn cydnabod cyflawniad academaidd rhagorol a’i nod yw denu’r dalent ymchwil orau o bob maes pwnc i Brifysgol Abertawe. Mae SUSPRS yn cynnig PhD partneriaeth ar y cyd gyda’r
myfyriwr fel arfer yn treulio 50% o’i amser gyda’r sefydliad partner. Mae’r ysgoloriaethau’n cynnwys ffioedd dysgu a chyflog blynyddol,
ein myfyrwyr doethurol i ddod yn ymchwilwyr blaenllaw’r dyfodol, mewn amgylchedd cefnogol sy’n cynnig cyfleoedd datblygu ychwanegol, megis gweithio neu astudio dramor a lleoliadau gwaith gyda phartneriaid diwydiannol. Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Fel rhan o PHD ESRC Cymru, mae Abertawe yn cynnal un lwybr ar ddeg: Astudiaethau Empirig yn y Gyfraith, Daearyddiaeth Ddynol, Dwyieithrwydd, Economeg, Economi a Chymdeithas Ddigidol, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Gwyddor Data, Iechyd a Lles, Ieithyddiaeth, Rheoli a Busnes, Seicoleg, a Throseddeg Mae PHD ESRC Cymru yn recriwtio myfyrwyr mewn dwy ffordd: yr Alwad Gydweithredol, lle gelli wneud cais am brosiectau a bennwyd eisoes sy’n cynnwys partneriaid anacademaidd; yr Alwad Gyffredinol, lle gelli ddatblygu dy gynnig dy hun am ysgoloriaeth PhD. Mae ysgoloriaethau cydweithredol a gynhelir gan Brifysgol Abertawe yn cynnwys partneriaid megis yr NSPCC, y GIG, y Sefydliad Gwasanaethau Unedig Brenhinol (RUSI), Llywodraeth Cymru, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Dŵr Cymru, Oxford University Press a’r Gymdeithas Sglerosis Ymledol. Mae’r PHD yn paratoi myfyrwyr doethurol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol drwy gynnig rhaglen o hyfforddi sgiliau, cyfleoedd ymdrochi a mynediad at ymchwilwyr blaenllaw ar draws prifysgolion. Mae hyn yn galluogi
a lwfans i gefnogi profiadau hyfforddi trochi, ymgysylltu â
diwydiant, cyfleoedd cydweithredol rhyngwladol ac adeiladu carfanau. Fel rhan o’n portffolio rhagoriaeth, rydym yn cydnabod ac yn dathlu cyrhaeddiad academaidd drwy wobrau James Callaghan, sy’n darparu cyllid i alluogi myfyrwyr ymchwil yn Abertawe i ddatblygu eu hymchwil. Trwy gydweithio â phrifysgolion blaenllaw eraill a phartneriaid mewn diwydiant, rydym yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr arloesol mewn disgyblaethau sy’n rhoi pwyslais ar y dyfodol – o ddeallusrwydd artiffisial a gweithgynhyrchu deunyddiau, i’r gwyddorau cymdeithasol a pholisi. Partneriaethau a chanolfannau hyfforddiant doethurol Fel un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd, rydym yn rhan o nifer o fentrau doethurol nodedig a ariennir gan UKRI sy’n dod ag ymchwilwyr ynghyd ac yn cefnogi
16
Made with FlippingBook flipbook maker