ei myfyrwyr doethurol i fynd i’r afael â heriau hanfodol a newid y ffordd y mae’r gymdeithas, yr amgylchedd a’r economi’n gweithio. Canolfan Hyfforddiant Doethurol ar Wella Rhyngweithio Dynol a Chydweithrediadau â Systemau Data a Chudd-Wybodaeth Yn rhan o’r Ffowndri Gyfrifiadol o’r radd flaenaf ym Mhrifysgol Abertawe, a chenhadaeth honno yw newid y byd drwy ymchwil o safon fyd-eang sy’n canolbwyntio ar fwyafu galluoedd dynol drwy ddefnyddio systemau wedi’u llywio gan ddata a’u galluogi gan ddeallusrwydd. Caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu meithrin gan oruchwylwyr amlddisgyblaethol a byddant yn gweithio ochr yn ochr â chyfres gyfoethog ac amrywiol o bartneriaid – gan gynnwys Facebook, Siemens, Tata, y GIG a Google. Mae’r Ganolfan yn dathlu pwysigrwydd safbwyntiau amrywiol wrth greu technolegau deallusrwydd artiffisial a data mawr y dyfodol sy’n gwasanaethu’r gymdeithas yn effeithiol. Mae’n croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy’n teimlo y gall helpu â chenhadaeth y Ganolfan. Canolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol ac Uwch-Gyfrifiadura (AIMLAC) Nod AIMLAC yw meithrin y genhedlaeth nesaf o arloeswyr deallusrwydd artiffisial ar draws ystod eang o ddisgyblaethau STEM gan ganolbwyntio ar dair thema ymchwil: data o gyfleusterau gwyddoniaeth mawr, gwyddorau biolegol, iechyd a chlinigol, a dulliau mathemategol, ffisegol, a chyfrifiadureg newydd. Mae cyfnewid gwybodaeth a gweithio amlddisgyblaethol wrth wraidd y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol, ac mae pwyslais cryf ar hyfforddi’r garfan, goruchwylio ar y cyd, rhyngweithio rhwng cymheiriaid a mentora myfyrwyr. Mae prosiectau ymchwil wedi’u gwreiddio mewn un o’r themâu, gyda chymorth gan oruchwylwyr ar draws themâu, i ddatblygu synergeddau newydd. Annogir ceisiadau gan ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol sy’n gallu cyfrannu’n gadarnhaol at ddyfodol ein cymdeithas.
17
Made with FlippingBook flipbook maker