CYMDEITHASEG A PHOLISI CYMDEITHASOL CAMPWS SINGLETON
81 % YSTYRIR BOD
YMCHWIL MEWN ADDYSG, CYMDEITHASEG & PHOLISI CYMDEITHASOL YN ARWAIN Y BYD NEU'N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021)
RHAGLENNI YMCHWIL
• Polisi Cymdeithasol MSc drwy Ymchwil/PhD/MPhil ALl RhA
• Cymdeithaseg PhD/MPhil ALl RhA • Dyniaethau Iechyd PhD/MPhil ALl RhA
CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Daearyddiaeth Ddynol, PhD/MPhil • Datblygiad a Hawliau Dynol, MA • Gwyddor Chwaraeon, PhD/MPhil • Hanes yr Henfyd a Diwylliant Clasurol, MA • Heriau Byd-eang: Cyfraith, Polisi ac Ymarfer, MA • Troseddeg, PhD/MPhil PAM ABERTAWE? • Mae ein hymchwil yn mynd i'r afael â materion cymdeithasol cyfoes allweddol o safbwynt cenedlaethol a rhyngwladol, gan archwilio themâu fel: cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb, tegwch, dinasyddiaeth a moeseg ymchwil. • Mae cynnig ystod eang o fodiwlau dewisol yn golygu y gelli di deilwra dy astudiaethau i dy ddiddordebau a dy nodau. • Cymorth bugeiliol a chyflogadwyedd rhagorol, gan dy baratoi ar gyfer dy yrfa.
RHAGLENNI A ADDYSGIR
• Dulliau Ymchwil Gymdeithasol MSc ALl RhA
Gelli di feithrin dy ddiddordeb mewn cymdeithas ac ymestyn dy wybodaeth mewn amgylchedd ymchwil deinamig. Byddwn yn dy alluogi i feithrin dy sgiliau dadansoddi ac ymchwil wrth roi'r dulliau i ti ar gyfer meddwl yn hyderus ac yn annibynnol, y mae galw mawr am hynny gan gyflogwyr. Mae gennym gysylltiadau rhagorol â sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys: llywodraeth leol a chenedlaethol, y sector gwirfoddol, y system cyfiawnder troseddol, gwaith cymdeithasol, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, iechyd yr amgylchedd.
YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Gelli di gael hyfforddiant mewn ystod o ddulliau ymchwil ansoddol
• Mynd i'r afael â materion cymdeithasol o safbwynt cenedlaethol a rhyngwladol.
a meintiol a ddefnyddir yn y gwyddorau cymdeithasol.
• Byddi di’n dysgu gan arbenigwyr yn y diwydiant, gyda chyfoeth o brofiad academaidd ac ymarferol mewn ystod o feysydd ymchwil gan gynnwys: troseddeg, gwaith cymdeithasol, daearyddiaeth ddynol, arweinyddiaeth a rheolaeth ymchwil.
MAE’R ACHREDIADAU’N CYNNWYS:
72
Made with FlippingBook flipbook maker