MEDDYLIAU MAWR
Mae Krijn Peters yn gymdeithasegydd datblygu gwledig sydd wedi arbenigo mewn gwrthdaro arfog ac ailadeiladu yn dilyn rhyfel mewn gwledydd nad ydynt yn y gorllewin. Wedi’i addysgu ym Mhrifysgol Wageningen yn yr Iseldiroedd, dysgodd werthfawrogi pwysigrwydd gwaith maes trylwyr. Fel myfyriwr israddedig treuliodd 6 mis yn Sierra Leone, oedd wedi’i rhwygo gan y rhyfel, er mwyn cyfweld â phlant-filwyr oedd wedi’u rhyddhau o’r fyddin ac yna aeth i Gambodia er mwyn astudio proses ailintegreiddio ymladdwyr Khmer Rouge. Ar ôl graddio, gweithiodd am flwyddyn i Achub y Plant gan werthuso ei rhaglenni rhyddhau o’r fyddin ac ailintegreiddio ar gyfer cyn-blantfilwyr yn Liberia. Ar gyfer ei PhD dychwelodd i Sierra Leone er mwyn astudio’r mudiad gwrthryfelgar gwaradwyddus RUF, a arweiniodd at y monograff ‘War and the Crisis of Youth in Sierra Leone’ (2012, Gwasg Prifysgol Caergrawnt). Mae ei ymchwil bresennol – a ariennir gan ESRC/DFID – yn archwilio rôl adeiladu ffyrdd gwledig ac effaith hynny ar liniaru tlodi yn y Liberia wledig wedi’r rhyfel. Mae llawer o’r cyn- ymladdwyr a gyfwelwyd gan Krijn wedi dod yn rhan o sector tacsis beiciau modur ffyniannus Gorllewin Affrica,
ond mae rhoddwyr cymorth a llywodraethau yn dal i fod yn amharod – heb ddata cadarn – i fuddsoddi yn yr hyn sydd wedi dod yn drafnidiaeth fodur fwyaf cyffredin ardaloedd gwledig (a threfol). Cred Krijn yn gryf y dylai addysg prifysgol fod yn seiliedig cymaint â phosibl ar ymchwil yn y byd go iawn. Mae’r astudiaeth a nodir uchod a nifer o brosiectau ymchwil eraill ar ieuenctid a thechnoleg y mae Krijn yn ymwneud â nhw wrth wraidd gradd MSc newydd a chyffrous a gyflwynir gan adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol a Choleg Peirianneg
Prifysgol Abertawe, ar y cyd â Sefydliad y Tywysog, sef ‘Peirianneg Gynaliadwy ar gyfer Datblygu Rhyngwladol.
Rwy’n credu’n gryf y dylai addysg prifysgol fod yn seiliedig cymaint â phosibl ar ymchwil yn y byd go iawn.
85
Made with FlippingBook flipbook maker