IEITHOEDD MODERN, CYFIEITHU A CHYFIEITHU AR Y PRYD CAMPWS SINGLETON
IEITHOEDD MODERN YN Y BYD (QS World Rankings 2022) 300
RHAGLENNI YMCHWIL
• Astudiaethau America Ladin MA drwy Ymchwil ALl RhA • Cyfieithu PhD/MPhil ALl RhA • Cyfieithu Llenyddol MA drwy Ymchwil ALl RhA • Ieithoedd Modern MA drwy Ymchwil/PhD/MPhil ALl RhA
• Ieithoedd Modern Prifysgol Abertawe ac Université Grenoble Alpes PhD ar y Cyd ALl RhA • Sgrinio/Llwyfannu Ewrop MA drwy Ymchwil ALl RhA
HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, MA/PGDip • Cyfieithu ac Addysgu Iaith Tsieinëeg-Saesneg, MA datblygiad academaidd a phroffesiynol ac yn hwyluso rhaglenni seminar, gweithdai a chynadleddau rhyngwladol. • Rydym yn cynnig hyfforddiant ôl-raddedig er mwyn ehangu CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau PAM ABERTAWE? • Mae gennym gyfleusterau o'r radd flaenaf sy'n bodloni safonau'r diwydiant, ynghyd â rhwydwaith byd-eang cadarn o sefydliadau allanol i helpu i lywio dy astudiaethau. • Rydym yn dod â sefydliadau a mudiadau o bedwar ban byd ynghyd i greu a datblygu rhaglenni rhyngwladol arloesol, cydweithrediadau a phartneriaethau strategol â phrifysgolion o safon fyd-eang. • Rydym yn cynnig y rhaglen MA (Estynedig) mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd drwy bartneriaeth unigryw ag ysgolion cyfieithu uchel eu bri Prifysgol Abertawe ac Université Grenoble Alpes (UGA), Ffrainc. • Mae gan ein rhaglenni MA a addysgir hanes hir o ysbrydoli ieithyddion cyffredinol ardderchog i ddod yn gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd proffesiynol.
RHAGLENNI A ADDYSGIR
• Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd MA ALl RhA • Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (Estynedig) MA ALl RhA • Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (Estynedig gydag Université Grenoble Alpes) MA ALl
• Cyfieithu Proffesiynol MA ALl RhA • Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig) MA ALl RhA • Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig gydag Université Grenoble Alpes) MA ALl • Technoleg Cyfieithu PGCert ALl
Mae Abertawe'n cynnig rhaglenni ôl-raddedig ardderchog mewn cyfieithu a chyfieithu ar y pryd. Mae ein holl raglenni a addysgir wedi'u cynllunio ar sail mewnbwn proffesiynol gan bobl sy'n gweithio yn y diwydiant gwasanaethau iaith, felly maent mor gyfoes a pherthnasol yn broffesiynol â phosib, gan gynnwys cyfran uchel o asesiadau ymarferol ac ar sail prosiect. Mae gan ein staff ymchwil amrywiaeth eang o ddiddordebau, o ieithyddiaeth i lenyddiaeth a thechnolegau cyfieithu. Mae myfyrwyr ymchwil hefyd yn ymuno ag amgylchedd deallusol bywiog lle ceir digwyddiadau rheolaidd a chymorth. YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL
• Mae gennym labordai â'r feddalwedd ddiweddaraf yn y diwydiant cyfieithu, ynghyd ag ystafell sy'n efelychu cyfieithu ar y pryd mewn cynhadledd a'r cyfarpar diweddaraf i olrhain symudiadau'r llygad. • Caiff pob myfyriwr fynediad at sianeli iaith ac archif helaeth o ffilmiau mewn ieithoedd tramor.
• Mae dysgu ac addysgu ar ein graddau'n cael eu hatgyfnerthu gan weithgareddau allgyrsiol a drefnir gan gymdeithasau iaith dan arweiniad myfyrwyr Prifysgol Abertawe, caffis
iaith wythnosol a digwyddiadau cymdeithasol eraill. Mae aelodau staff yn yr Adran yn cefnogi'r holl ddigwyddiadau hyn.
Proffil Myfyriwr gweler y dudalen nesaf
Ysgoloriaethau Cymraeg ar gael, gweler tudalen 44
97
Made with FlippingBook flipbook maker