ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

BODDHAD MYFYRWYR (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2021) 93 %

GWAITH CYMDEITHASOL CAMPWS PARC SINGLETON

Os wyt am wneud gyrfa ble medra wneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl a chymunedau mewn amgylchiadau sy'n agored i niwed, mae'r radd hon yw'r sbardun perffaith. Byddi di’n treulio hanner dy amser ar leoliad gwaith, dysgu drwy arsylwi ac ymarfer, a'r hanner arall yn cael ei addysgu ar ein campws, yn datblygu ymchwil rhagorol a sgiliau dadansoddi ac yn dysgu i gyfathrebu dy syniadau.

Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Mae ein cwrs yn cael ei achredu gan Ofal Cymdeithasol Cymru a chydnabyddir gan y cyrff rheoleiddio yn y gwledydd eraill yn y DU, er mwyn i ti gofrestru ar ôl cwblhau fel gweithiwr cymdeithasol cymwysedig. Mae gennym gysylltiadau da gydag asiantaethau gwasanaethau cymdeithasol yn ne a gorllewin Cymru, ac mewn awdurdodau lleol a'r sectorau gwirfoddol, gan gynnig lleoliadau mewn amrywiaeth o leoliadau. Pan fyddi di’n gwneud cais am y cwrs, dylet ddweud wrthym am dy ysgogiad, dy brofiad a dy ymrwymiad i ddilyn gyrfa mewn gwaith cymdeithasol a gwneud rhywfaint o ddarllen cefndirol am waith cymdeithasol yng Nghymru, a dylet ti gael dy wahodd i gyfweliad.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i Gyfraith Gwaith Cymdeithasol • Cyflwyniad i Waith Cymdeithasol • Dysgu trwy Ymarfer • Gwaith Cymdeithasol ar Waith • Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol mewn Cymdeithas Amrywiol: Moeseg, Gwerthoedd ac Ymarfer Gwrth-wahaniaethol • Gwneud a Defnyddio Ymchwil Gwaith Cymdeithasol ar gyfer Ymarfer • Twf a Datblygiad Dynol Blwyddyn 2 • Damcaniaethau a Safbwyntiau mewn Gwaith Cymdeithasol • Dysgu Gwaith Cymdeithasol trwy Ymarfer • Gwaith Cymdeithasol ar Waith • Materion Cyfreithiol mewn Gwaith Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol Blwyddyn 3 • Cymhwyso Gwybodaeth i Wella Ymarfer • Dysgu Gwaith Cymdeithasol trwy Ymarfer • Ymarfer Beirniadol mewn Gofal Plant • Ymarfer Beirniadol mewn Gofal yn y Gymuned i Oedolion

CYNNIG NODWEDDIADOL: BCC

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Gwaith Cymdeithasol ▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Gweithiwr Cymdeithasol Cofrestredig • Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol • Gweithiwr Ieuenctid a Chymunedol • Swyddog Adolygu Annibynnol • Ymarferwr Iechyd Meddwl Cymeradwy Mae’r cyflogau cychwynnol ar gyfer gweithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso yw £28,000. I uwch ymarferydd mae hyn yn cynyddu i rhwng £33,000 a £45,000.

Mae achrediadau'n cynnwys:

103

Made with FlippingBook Annual report maker