MATHEMATEG CWRS GORAU'R (Guardian University Guide 2022) DU NYRSIO (The Guardian University i ) 10 UCHAF YN Y DU
NYRSIO: ANABLEDD DYSGU CAMPWS PARC SINGLETON
Mae nyrsys Anabledd Dysgu yn chwarae rôl hollbwysig wrth gefnogi pobl o bob oedran a chefndir ar bob cam o'u bywydau. Bydd ein hystod o strategaethau dysgu ac addysgu yn datblygu dy allu i feddwl yn feirniadol ac yn dy alluogi i nodi anghenion amrywiol a chymhleth pobl sydd ag anableddau dysgu; gwneud diagnosis nyrsio cywir a chynllunio a gwerthuso'r gofal y mae ei angen er mwyn mwyafu cyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau yn y gymdeithas.
DIM FFIOEDD DYSGU: Myfyrwyr yDU** Gwna gais am becyn cymorth ychwanegol drwy gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. (**amodau yn berthnasol)
abertawe.ac.uk/benthyciadau-a- grantiau/cwrs-a-ariennir-gan-y-gig
Drwy gydol y cwrs hwn sydd wedi'i integreiddio'n ofalus, byddi di’n dysgu sut i ddiwallu anghenion pobl sydd â heriau iechyd meddwl,
FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyd-destunau Gofal Iechyd ar gyfer Anabledd Dysgu • Cyflwyniad i Nyrsio a Gofal Iechyd ar gyfer Anabledd Dysgu • Deall Iechyd a Salwch Anabledd Dysgu Blwyddyn 2 • Gofal Iechyd Acíwt ar gyfer Anabledd Dysgu • Gofalu am Bobl sydd â Chyflwr Hirdymor ac Anghenion Gofal Lliniarol • Sicrhau Gofal o Safon ar gyfer Anabledd Dysgu Blwyddyn 3 • Gofalu am yr Unigolyn sydd ag Anghenion Cymhleth • Hyrwyddo Ymarfer Nyrsio ar gyfer Anabledd Dysgu • Paratoi ar gyfer Ymarfer Proffesiynol
Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael
corfforol, gwybyddol neu ymddygiadol, gan alluogi
Cynigion Cyd-destunol ar gael
ymarferwyr i gefnogi pobl o bob oedran sydd ag anableddau dysgu. Mae ein staff academaidd yn nyrsys cymwysedig, yn feddygon, ac yn weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gan ddarparu cyfuniad eithriadol o drylwyredd damcaniaethol, craffter proffesiynol ac arbenigedd ymarferol. Mae ein cyfleusterau rhagorol yn cynnwys ystafelloedd clinigol realistig er mwyn i ti roi dy wybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu mor agos â phosibl yr amodau go-iawn y byddi di’n eu profi pan fyddi di’n mynd ar leoliad gwaith mewn ysbyty neu yn y gymuned. Cynhelir hanner o dy addysgu yn y Brifysgol a'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae gennym berthnasoedd gweithio ardderchog â llawer o ddarparwyr gofal iechyd, felly bydd gen ti fynediad i ystod eang o brofiadau clinigol ledled De-orllewin Cymru.
Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael
CYNNIG NODWEDDIADOL: BSc: BBB (gan gynnwys pynciau sy'n ymwneud ag iechyd neu wyddoniaeth yn ddelfrydol)
Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †
BSc Anrhydedd Sengl ▲ Nyrsio (Anabledd Dysgu) ^ ▲ 3 BLYNEDD Amser-Llawn Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs
GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: Gall graddedigion Nyrsio ddisgwyl ennill cyflog cychwynnol o £25,655, a fydd yn codi i £53,219 i nyrs staff profiadol.
Darllen ein canllaw pwnc yma:
^ Yn amodol ar gymeradwyaeth
137
Made with FlippingBook Annual report maker