ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

NYRSIO (The Guardian University Guide 2022) 10 UCHAF YN Y DU

NYRSIO: OEDOLION CAMPWS PARC SINGLETON

Bydd ein cwrs gradd mewn Nyrsio Oedolion, sydd wedi'i gydnabod yn rhyngwladol, yn rhoi i ti'r sgiliau a'r profiad i lansio gyrfa wobrwyol yn y proffesiwn amrywiol a hanfodol hwn. Wrth i ti ddatblygu, byddi di’n meithrin y sgiliau i asesu, cynllunio, darparu, a gwerthuso gofal ar sail tystiolaeth er mwyn hyrwyddo iechyd a lles oedolion gyda chyflyrau cronig ac acíwt.

DIM FFIOEDD DYSGU: Myfyrwyr yDU** Gwna gais am becyn cymorth ychwanegol drwy gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. (**amodau yn berthnasol)

Drwy gydol y cwrs hwn sydd wedi'i integreiddio'n ofalus, byddi di’n dysgu am anghenion cyfannol pobl o adeg troi'n oedolion tan eu henaint, a byddi di’n meithrin y sgiliau proffesiynol i ddarparu gofal nyrsio o safon mewn ystod o leoliadau clinigol a chymunedol. Mae ein staff academaidd yn nyrsys cymwysedig, yn feddygon, ac yn weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gan ddarparu cyfuniad eithriadol o drylwyredd damcaniaethol, craffter proffesiynol ac arbenigedd ymarferol. Mae ein cyfleusterau rhagorol yn cynnwys ystafelloedd clinigol realistig er mwyn i ti roi dy wybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu mor agos â phosibl yr amodau go-iawn y byddi di’n eu profi pan fyddi di’n mynd ar leoliad gwaith mewn ysbyty neu yn y gymuned. Fel arfer, cynhelir hanner o dy addysgu yn y Brifysgol a'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd*. Mae gennym berthnasoedd gweithio ardderchog â llawer o ddarparwyr gofal iechyd, felly bydd gen ti fynediad i ystod eang o brofiadau clinigol ledled De-orllewin Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys lleoliadau yn y GIG a'r sector annibynnol mewn ysbytai ac yn y gymuned.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyd-destunau Gofal Oedolion • Cyflwyniad i Nyrsio a Gofal Iechyd Oedolion • Deall Iechyd a Salwch Blwyddyn 2 • Gofal Acíwt i Oedolion • Gofalu am Oedolion sydd â Chyflwr Hirdymor ac Anghenion Gofal Lliniarol • Sicrhau Gofal o Safon Blwyddyn 3 • Gofalu am Oedolyn sydd ag Anghenion Cymhleth • Paratoi ar gyfer Ymarfer Proffesiynol • Ymestyn Ymarfer Nyrsio Oedolyn

abertawe.ac.uk/benthyciadau-a- grantiau/cwrs-a-ariennir-gan-y-gig

Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael

Cynigion Cyd-destunol ar gael

Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

CYNNIG NODWEDDIADOL: BSc: BBB (gan gynnwys pynciau sy'n ymwneud ag iechyd neu wyddoniaeth yn ddelfrydol)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ ♦  Nyrsio (Oedolion) (Campws Parc Singleton, Abertawe) ▲ ♦  Nyrsio (Oedolion) (Campws Dewi Sant, Caerfyrddin) ▲ ♦  Nyrsio (Oedolion) (Dysgu Gwasgaredig)^

Darllen ein canllaw pwnc yma:

▲ 3 BLYNEDD Amser-Llawn ♦ 4 BLYNEDD Rhan-Amser Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: Gall graddedigion Nyrsio ddisgwyl ennill cyflog cychwynnol o £25,655, a fydd yn codi i £53,219 i nyrs staff profiadol. *Gall ymgeiswyr yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ymgymryd â'r cwrs hwn drwy Ddysgu Gwasgaredig. Gan gymryd ymagwedd dysgu cyfunol, byddi di’n ymgymryd â chyfleoedd i ddysgu wrth ymarfer mewn amrywiaeth o amgylcheddau, wedi dy gefnogi gan oruchwylwyr ymarfer, yn ogystal ag addysgu wyneb-yn- wyneb ar draws yr ardal leol, wedi'u cefnogi gan ein platfform dysgu ar y cwmwl drwyddi draw.

Mae achrediadau'n cynnwys:

^ Yn amodol ar gymeradwyaeth

139

Made with FlippingBook Annual report maker