TROSEDDEG (Guardian University Guide 2022) YN Y DU 6 ED
TROSEDDEG CAMPWS PARC SINGLETON
Mae Troseddeg yn un o’r pynciau mwyaf amrywiol, ysgogol a heriol a gynigir ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n tynnu ar ddisgyblaethau megis seicoleg, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, y gyfraith, a hyd yn oed bioleg, i ymchwilio i broblemau cymdeithasol enbyd: Beth sy’n achosi troseddu? Beth dylem ei wneud amdani? Beth yw’r ffordd orau o gefnogi dioddefwyr?
Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael
Fel myfyriwr troseddeg ym Mhrifysgol Abertawe, byddi di'n perthyn i gymuned ffyniannus, a’u buddion bugeiliol ac academaidd yw’r blaenoriaethau uchaf. Caiff y rhaglen ei haddysgu mewn amgylchedd cartrefol a chefnogol, â phwyslais amlwg ar wybodaeth a sgiliau sy’n angenrheidiol er mwyn llwyddo yn y gweithle. Rydyn yn cynnig modiwlau sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd a gwneud defnydd da o'n rhwydweithiau i drefnu lleoliadau gwaith gydag ystod o sefydliadau cyfiawnder troseddol. I ennill sgiliau newydd, gall myfyrwyr Troseddeg hefyd wneud cais am interniaeth ymchwil gydag aelod o staff neu asiantaeth bartner allweddol, a gwneud ymchwil ar bwnc o dy ddewis. Mae cyfranogwyr diweddar wedi rhannu eu gwaith â llunwyr polisi, gan wneud
FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i’r System Cyfiawnder Troseddol • Cyflwyniad i Theori Troseddegol • Sylfeini mewn Ymchwil Blwyddyn 2 • Arweinyddiaeth a Rheoli mewn Cyfiawnder Cymdeithasol • Cyflwyniad i Blismona • Cyfryngau, Troseddau a Chyfiawnder Troseddol • Penydeg a Chosbau • Rheoli Troseddwyr Cymhwysol Blwyddyn 3 • Deall a Gwrthweithio Terfysgaeth ac Eithafiaeth Dreisgar • Heriau Beirniadol mewn Cyfiawnder i Blant • Niwed Cymdeithasol ac Amgylcheddol • Traethawd Hir (Dewisol) • Troseddoli Rhyw
CYNNIG NODWEDDIADOL: ABB-BBB Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) † BSc Anrhydedd Sengl ▲ Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ▲ Troseddeg a Chymdeithaseg ♦ Troseddeg a Chymdeithaseg (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/ Dramor)
GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Cyfiawnder Troseddol • Gwasanaeth Prawf • Heddlu • Llywodraeth • Y Trydydd Sector • Ymchwil Cymdeithasol ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs LLB Prif Bwnc/Is-bwnc Anrhydedd ▲ Y Gyfraith gyda Throseddeg BSc Cydanrhydedd Troseddeg a ▲ Polisi Cymdeithasol ▲ Seicoleg
gwahaniaeth go iawn i’r ffyrdd y mae asiantaethau’n gweithio.
BSc MEWN TROSEDDEG A CHYMDEITHASEG Mae'r radd hon yn cyfuno Troseddeg, sef y maes astudio sy'n canolbwyntio ar droseddoli, erledigaeth ac ymatebion cymdeithasol i drosedd ac anhrefn, â Chymdeithaseg, sef astudio bywyd dynol a geir mewn grwpiau, sefydliadau a chymdeithasau. Byddi di'n cael gwybodaeth fanwl am faterion hollbwysig sy'n ymwneud â'r gymdeithas a throseddu, fel defnyddio sylweddau, tai a thlodi. Bydd y modiwlau ar gael yn adlewyrchu diddordebau ymchwil staff ar draws ystod o faterion ac ymagweddau troseddegol a chymdeithasegol, er enghraifft: rhywedd, addysg, problemau cymdeithasol, y cyfryngau cymdeithasol, diwylliant a threulio, iechyd, mudo a chysylltiadau ethnig. Drwy gydol dy astudiaethau, byddi di'n meithrin amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy sy'n berthnasol i gyflogaeth yn y dyfodol, yn y proffesiynau sy'n gysylltiedig â gwyddor gymdeithasol ac mewn amrywiaeth ehangach o feysydd. Sgania'r côd QR er mwyn cael rhagor o wybodaeth.
159
Made with FlippingBook Annual report maker