ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

BUSNES, MARCHNATA & RHEOLI RHAGOLYGON GYRFA (Guardian University Guide 2022) 20

TWRISTIAETH CAMPWS Y BAE

UCHAF YN Y DU

Hoffet ti gael rôl mewn diwydiant cyffrous ac amrywiol sy'n cynnig cyfleoedd gwych am yrfaoedd ledled y byd? Wyt ti’n chwilio am radd a fydd yn rhoi mantais i ti dros y gystadleuaeth ac yn dy helpu i feithrin y sgiliau sy'n hollbwysig mewn amrywiaeth o amgylcheddau, gan gynnwys rheoli sefydliad twristiaeth?

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael

Fel un o ddiwydiannau mwyaf y byd, ac ymhlith y rhai sy'n tyfu gyflymaf, mae twristiaeth yn cael effaith sylweddol ar amrywiaeth o ffactorau economaidd, gwleidyddol, technolegol, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol – ac mae'r ffactorau hyn yn dylanwadu ar y diwydiant hefyd. Bydd dy gwrs yn ymchwilio i'r materion hyn ac yn dy helpu i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau trosglwyddadwy hanfodol i wneud argraff yn y diwydiant hwn, yn lleol ac yn fyd-eang. Gan fod marchnata, rheolaeth ac effeithiau wrth wraidd y cwrs, byddi di’n ymdrin ag achosion bywyd go iawn sy'n effeithio ar gyrchfannau go iawn. Byddi hefyd yn cael profiad o gyrchfannau lleol a thramor drwy amrywiaeth o deithiau maes*, wedi'u cynllunio i dy helpu i ddeall cymhlethdodau a gofynion rheoli cyrchfan neu fenter twristiaeth. Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn rhoi'r cyfle perffaith i ti ennill profiad diwydiant y byd go iawn, gan dy wneud yn ymgeisydd deniadol ar gyfer swyddi ar ôl graddio. Wyt ti eisiau blwyddyn fythgofiadwy yn ymdrochi mewn diwylliannau newydd a datblygu fel unigolyn; yn broffesiynol ac yn bersonol ? Mae Blwyddyn Dramor hefyd yn gyfle sydd ar gael i ti.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Busnes Twristiaeth • Marchnata • Rheoli Gweithrediadau • Twristiaeth a Chymdeithas Blwyddyn 2 • Dylunio a Rheoli Profiadau Ymwelwyr • Entrepreneuriaeth ar gyfer Profiadau Twristiaeth • Sefydliadau Twristiaeth • Twristiaeth ar Waith Blwyddyn 3

CYNNIG NODWEDDIADOL: ABB-BBB Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ R heoli Busnes (Twristiaeth) ♦ Rheoli Busnes (Twristiaeth) (gyda Blwyddyn Sylfaen) ♦ Rheoli Busnes (Twristiaeth) (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ▲ R heoli Twristiaeth Ryngwladol ♦ Rheoli Twristiaeth Ryngwladol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Mae hefyd opsiwn i astudio twristiaeth dan y llwybr BSc Rheoli Busnes (Twristiaeth) . Am fwy o wybodaeth, gweler tudalen 154.

• Cynllunio Twristiaeth • Marchnata Twristiaeth • Prosiect Blwyddyn Olaf • Twristiaeth Gynaliadwy

Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Cynllunydd Digwyddiadau • Marchnatwr Cyrchfan • Rheolwr Profiadau Ymwelwyr • Rheolwr Twristiaeth *Gall teithiau maes, gan gynnwys teithiau maes rhyngwladol, newid. Caiff pob myfyriwr ei hysbysu am newidiadau o ran maes llafur y rhaglen.

Mae achrediadau'n cynnwys:

Yn amodol ar ddewis modiwlau ar y Llwybr Rheoli Busnes (Twristiaeth)

160

Made with FlippingBook Annual report maker