ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

Un o’r prif resymau dewisais Brifysgol Abertawe oedd oherwydd aelodau staff Ysgol y Gyfraith. Wrth ymweld ar ddiwrnod agored, roedd y staff mor garedig ac yn amlwg yn frwdfrydig i ddysgu. Hefyd roedd tipyn mwy o opsiynau ar gyfer dewisiadau'r ail a’r drydedd flwyddyn sydd yn agor mwy o ddrysau wedi i mi raddio. Fel merch o Sir Benfro, un o’r pethau gorau am Brifysgol Abertawe yw’r ffaith fy mod yn dal i fod yn agos at fy ffrindiau o gartref ond hefyd gyda’m ffrindiau newydd. Credaf fod astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn cyflwyno mwy o gyfleoedd o ran gyrfa yn y dyfodol ac yn ffordd dda o wella fy sgiliau cyfathrebu cyffredinol. Rydw i’n ffodus fy mod i’n derbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n golygu fy mod i’n derbyn £500 am astudio gwerth 40 credyd yn y Gymraeg bob blwyddyn. Yn fy amser hamdden rydw i’n dawnsio fel rhan o Gymdeithas Ddawns Prifysgol Abertawe heb sôn am fod yn ysgrifenyddes y gymdeithas!

LLB Y GYFRAITH (TROSEDD A CHYFIAWNDER TROSEDDOL) I ddysgu mwy am ein storïau myfyrwyr, gweler: abertawe.ac.uk/astudio/ein-storiau-myfyrwyr

163

Made with FlippingBook Annual report maker