ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

UNDEB Y

swanseaunisu

swanseaunisu

swanseaunisu

swanseaunisu

Katie Phillips Llywydd Undeb y Myfyrwyr 2021-2022

S W ANSE A UNIVE R SIT Y S TUDEN T S ’ UNION

UNDEB M YFY R WYR PRIF Y SGO L ABE R T A WE

Caiff Undeb y Myfyrwyr ei gynnal gan fyfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr. Rydyn yn elusen gofrestredig sy’n cefnogi ac yn cynrychioli’r holl fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Rydyn yn ethol swyddogion amser llawn bob blwyddyn, sy’n cynrychioli myfyrwyr ym mhopeth sy’n ymwneud â’r brifysgol; o Gymdeithasau a Gwasanaethau i Chwaraeon, materion Cymraeg a Lles ac Addysg.

Mae gennym gynrychiolwyr colegau a phynciau hefyd – dyma’r myfyrwyr sy’n gweithio gyda’r Brifysgol i ymdrin â phroblemau sydd gan fyfyrwyr ar eu cwrs. Rydyn hefyd yn gyfrifol am y siopau a barriau ar y campws – JC’s, Tafarn Tawe, Rebound, Root Zero, Costcutter a Fulton Outfitters. Mae’r holl arian sy’n cael ei wario yn y lleoliadau hyn yn mynd yn syth yn ôl i brofiad y myfyrwyr. Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn trefnu Pythefnos y Glas, Dawns yr Haf, Varsity, Tooters a llu o ddigwyddiadau gwych eraill i ti eu mwynhau!  swansea-union.co.uk

40

Made with FlippingBook Annual report maker