Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael BODDHAD CWRS (Times Good University Guide 2022) UCHAF YN Y DU 10 GWLEIDYDDIAETH
CYSYLLTIADAU RHYNGWLADOL CAMPWS PARC SINGLETON
Wrth i'n byd fynd yn llai ac yn llai diolch i dechnoleg, trafnidiaeth ac economi ryngwladol gymhleth, mae gwerth cydberthnasau heddychlon a chydweithredol rhwng gwledydd yn dod yn fwyfwy pwysig. Ar gyfer y radd hon byddi’n edrych y tu ôl i'r penawdau ar y prif ddylanwadwyr o ran gwleidyddiaeth ryngwladol, gan ystyried syniadau pwysig a sut y gallwn ddatrys gwrthdaro neu sicrhau cydweithrediad.
Ar ein rhaglen Cysylltiadau Rhyngwladol, byddi’n edrych ar globaleiddio a sefydliadau byd-eang, gwaith datblygu a hawliau dynol, gwleidyddiaeth ryngwladol a rhanbarthol, heddwch a gwrthdaro, economi wleidyddol, diogelwch ac astudiaethau strategol, ac yn dysgu sut mae pŵer, sefydliadau a chyfreithiau yn effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd. Byddi’n meithrin dealltwriaeth o'r patrymau ymddwyn rhwng gwledydd, eu harweinwyr a'u corfforaethau, gan ganolbwyntio ar y rhyngweithio a'r cydberthnasau rhwng syniadaeth athronyddol, wleidyddol ac economaidd. Cei gyfle i wneud lleoliad gwaith cystadleuol gyda Senedd Cymru fel rhan o'r modiwl, Senedd Cymru. Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn un o nifer cyfyngedig o sefydliadau a ddewiswyd i ddechrau partneriaeth â Senedd y DU i gyflwyno modiwl arloesol, Astudiaethau Seneddol i fyfyrwyr yn y drydedd flwyddyn. Mae’r modiwl yn cynnwys cyfres o sesiynau gydag arbenigwyr ac aelodau o staff sy’n gweithio yn Senedd y DU. Bydd yn arwain at ymweld â San Steffan am ddiwrnod, a fydd yn cynnwys sgwrsio ag uwch-aelodau o’r Senedd.
FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i Athroniaeth Hynafol a Rhethreg • Cyflwyniad i Gysylltiadau Rhyngwladol • Cyflwyniad i Wleidyddiaeth • Profiad America 1492-2000 • Rhyfel a Heddwch yn yr Oes Niwclear Blwyddyn 2 • Anarchiaeth a Threfn: Damcaniaethau mewn Cysylltiadau Rhyngwladol • America mewn Argyfwng: Diwylliant Gwleidyddol a Chymdeithas o'r Tet Sarhaus i Trump • Athroniaeth a'r Oleuedigaeth • Globaleiddio • Hanes Meddwl Gwleidyddol Blwyddyn 3 • Astudiaethau Seneddol • Perygl Clir a Heddiw: Terfysgaeth ac America
CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB
Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †
BA Anrhydedd Sengl ▲ Cysylltiadau Rhyngwladol ♦ Cysylltiadau Rhyngwladol (gyda Blwyddyn Dramor) ♦ Cysylltiadau Rhyngwladol (gyda Blwyddyn Sylfaen)
BA Prif Bwnc/Is-bwnc Anrhydedd ♦ Cysylltiadau Rhyngwladol gydag Almaeneg (gyda Blwyddyn Dramor) ♦ Cysylltiadau Rhyngwladol gyda Ffrangeg (gyda Blwyddyn Dramor) ♦ Cysylltiadau Rhyngwladol gyda Sbaeneg (gyda Blwyddyn Dramor) BA Cydanrhydedd Cysylltiadau Rhyngwladol a ▲ ♦ Astudiaethau Americanaidd (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ ♦ Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ ♦ Hanes (gyda Blwyddyn Dramor)
▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs
• Senedd Cymru • Yn Sgîl y Rhyfel
GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Addysg • Busnes • Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus • Llywodraeth a Gwleidyddiaeth • Sefydliadau Dyngarol • Y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus
89
Made with FlippingBook Annual report maker