BODDHAD CWRS (Guardian University Guide 2022) UCHAF YN Y DU 5
ECONOMEG CAMPWS Y BAE & CAMPWS PARC SINGLETON
Gall gradd mewn Economeg arwain at amrywiaeth enfawr o yrfaoedd, o fancio buddsoddi ac ymgynghoriaeth rheoli i wleidyddiaeth a swyddi rheoli mewn sefydliadau byd-eang. Mae gan ein graddau Economeg enw da iawn am gynhyrchu graddedigion o safon uchel. Mae nifer o'r graddedigion hynny wedi symud ymlaen i weithio i'r cwmnïau mwyaf yn y byd fel Barclays, HSBC a PwC.
Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael
Mae ein graddau yn rhoi dealltwriaeth gadarn i ti o egwyddorion economaidd modern a materion cyfoes. Caiff y cyrsiau eu diweddaru'n gyson er mwyn parhau i fod yn berthnasol i'r byd modern go iawn, ac mae'r un mor addas i ti os wyt yn ystyried gyrfa fel economegydd, os wyt yn agored i weithio mewn gwahanol feysydd economaidd ac ariannol. Yn dy flwyddyn gyntaf, byddi di’n derbyn sylfaen gynhwysfawr o wybodaeth sy'n cwmpasu micro a macro-economeg, ystadegau, cyllid, cyfrifyddu a methodoleg. Yn ystod blynyddoedd diweddarach bydd gen ti fwy o ddewis o fodiwlau arbenigol mewn meysydd sy'n cwmpasu polisi economaidd, datblygu economaidd ac econoeg iechyd. Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn rhoi'r cyfle perffaith i ti ennill profiad diwydiant y byd go iawn, gan dy wneud yn ymgeisydd deniadol ar gyfer swyddi ar ôl graddio.
Wyt ti eisiau blwyddyn fythgofiadwy yn ymdrochi mewn diwylliannau newydd a datblygu fel unigolyn; yn broffesiynol ac yn bersonol ? Mae Blwyddyn Dramor hefyd yn gyfle sydd ar gael i ti. FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Archwilio Data Economaidd • Cyllid ar gyfer Economeg • Egwyddorion Macro-Economeg • Egwyddorion Micro-Economeg Blwyddyn 2 • Macro-Economeg Canolradd • Micro-Economeg Canolradd • Polisi Economaidd • Problemau a Gwneud Penderfyniadau mewn Economeg Blwyddyn 3 • Economeg Ddigidol • Economeg a Masnach Ryngwladol • Hanes Meddwl Economaidd
CYNNIG NODWEDDIADOL: ABB-BBB Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †
BSc Anrhydedd Sengl ▲ ♦ Economeg ▲ ♦ Economeg a Busnes ▲ ♦ Economeg a Chyllid
♦ Gellir ymestyn ein holl gyrsiau 3 blynedd i 4 blynedd i'w cynnwys: (Blwyddyn Sylfaen) neu (Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor)
▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs
GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Dadansoddwr, Ymchwilydd neu Ymgynghorydd i'r Llywodraeth • Dadansoddwr Ariannol • Econometrydd • Economydd Proffesiynol • Masnachwr Deilliadau • Rheolwr neu Ymgynghorydd Rheoli
• Macro-Economeg Uwch • Micro-Economeg Uwch
Mae achrediadau'n cynnwys: (yn amodol ar ddewis modiwlau):
93
Made with FlippingBook Annual report maker