THEMÂU TRAWSBYNCIOL
Yn sail i’n gweledigaeth a’n hamcanion fel y’u hamlinellir yn themâu strategol Ymchwil ac Arloesedd a Dysgu ac Addysgu, mae cyfres o themâu trawsbynciol neu strategaethau galluogi i wreiddio ein gwerthoedd a darparu buddion a gwelliannau i’r Gyfadran, y Brifysgol a thu hwnt. Adlewyrcha’r rhain ein huchelgeisiau mewn prifysgol gynhwysfawr a arweinir gan ymchwil.
Gan gymhwyso lens gwella iechyd i ddatblygiad economaidd er budd y rhanbarth, Cymru a thu hwnt, tyfwn ein henw da byd-eang am gydweithrediadau academaidd-diwydiant gyda sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol o bob math i ysgogi twf economaidd, meithrin ffyniant, cyfoethogi’r gymuned leol a diwylliant Cymreig a chyfrannu at iechyd a llesiant ein dinasyddion. Byddwn yn parhau i fanteisio ar gyllid allanol i helpu i gefnogi ymchwil ac arloesi, gan adeiladu ar lwyddiant prosiectau megis Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Accelerate, Sefydliad Awen, BEACON, CALIN a PATROLS a bellach prosiect trawsnewidiol Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. STRWYTHUR Mae’r gyfadran wedi bod ar flaen y gad yn natblygiad seilwaith digidol a ffisegol y Brifysgol ers creu ei chyfleusterau ymchwil blaenllaw yn yr Athrofa Gwyddor Bywyd ac yna Gwyddor Data Iechyd.
Byddwn hefyd yn adolygu gofynion gofod yn unol â phrosiectau datblygu menter, gan gynnwys cwblhau Cam 1 yn unol â thargedau’r Fargen Ddinesig, ac alinio gweithgareddau Iechyd a Diogelwch â pholisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol. Edrychwn ar fasnacheiddio ein seilwaith ar draws ystod o feysydd mewn cydweithrediad agos ag eraill ac mewn ffordd y gellir ei graddio ar draws y brifysgol. Rydym yn falch o gynnal SUSim, ystafell Efelychu Prifysgol Abertawe. Ein gweledigaeth ar gyfer addysg sy’n seiliedig ar efelychu yw gwreiddio dysgu rhyngbroffesiynol ym mhob rhan o’n cyfres o raglenni clinigol, iechyd a gofal cymdeithasol nid yn unig er budd ein myfyrwyr a’n hathrawon ond hefyd er mwyn datblygu arferion diogelwch y claf, tîm a systemau fesul dysgu ymarferol. Yn ogystal â pharhau i uwchraddio ac adnewyddu cyfleusterau presennol y Gyfadran, byddwn yn parhau i ddatblygu ein tirwedd ddigidol a TG, gan sicrhau gofod ymchwil ac addysgu o’r radd flaenaf sy’n addas at y diben ar gyfer myfyrwyr y dyfodol. Caiff y gwaith hwn ei wneud yng nghyd- destun cynllunio strategol a blaenoriaethau’r brifysgol. CYNALADWYEDD Mae cynnal llwyddiant ac enw da’r Gyfadran yn dibynnu ar barhau i recriwtio a chadw myfyrwyr a staff, a chynhyrchu refeniw parhaus fesul grantiau, cyllid a chyfleoedd masnachol. Rydym wedi ymrwymo i gynnal a gwella cyfleoedd addysgol a boddhad myfyrwyr ac i fod yn gyrchfan o ddewis i israddedigion ac ôl- raddedigion, o’r DU, yr UE a thramor. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gryfhau ein hymchwil a’n harloesedd ymhellach, i sicrhau ymarferoldeb masnachol, tra hefyd yn cyfrannu at fentrau’r Brifysgol, prosiect y Fargen Ddinesig a’r rhanbarth ehangach, ac Agenda Chwaraeon y Brifysgol.
POBL A DIWYLLIANT Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cymuned o staff y Gyfadran, gan ddod â thimau gwasanaethau academaidd a phroffesiynol ac unigolion o bob rhan o’r gyfadran ynghyd, mewn ffordd sy’n cyd-fynd yn llawn â strategaeth pobl a diwylliant y Brifysgol. Ymdrechwn i wella llesiant staff trwy sefydlu effeithiol a chefnogol, cefnogi ac uwchsgilio rheolwyr llinell effeithiol, darparu cefnogaeth barhaus ystyrlon a datblygiad proffesiynol. Byddwn yn blaenoriaethu datblygiad personol a chyfraniad staff trwy gynllunio olyniaeth, dilyniant gyrfa ac adolygu mentora a sicrhau dyraniad llwyth gwaith teg, cyfiawn a pherthnasol trwy greu grŵp gorchwyl a gorffen i ddatblygu cynnig a methodoleg, gan gysylltu â mentrau ar draws y Brifysgol. Trwy strwythur pwyllgor EDI wedi’i ailddatblygu ac agenda cyffredin rhwng y Gyfadran a’r Brifysgol, bydd gennym ffocws cryf ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Byddwn hefyd yn dod â chymuned ynghyd i godi proffil a dathlu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant, gyda phwyllgor Iaith Gymraeg gwbl weithredol a mwy o gyfleoedd dwyieithog.
MENTER A CHWARAEON Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo yn ei chyfranogiad, ei hymrwymiad a’i chyflawniadau mewn chwaraeon ar lefelau elit, myfyriwr a chymuned. Bydd Prosiect Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a arweinir gan y Brifysgol mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda ac ARCH, yn denu mewnfuddsoddiad gan gwmnïau yn y sector MedTech a Thechnoleg Chwaraeon a fydd yn trawsnewid ein harlwy chwaraeon ymhellach - o ran cyfleusterau, cyfleoedd, chwaraeon, cyrsiau sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant, partneriaethau arwyddocaol a’n cyfraniad at iechyd, cyfoeth a llesiant yr ardal. RHYNGWLADOLI Yn ogystal â dod â’r byd i Gymru, rydym wedi ymrwymo i fynd â Chymru i’r byd, gan godi proffil ein hymchwil, arloesi, iaith, a diwylliant ar y llwyfan byd-eang. Rydym wedi ymrwymo i fanteisio ar Bartneriaethau Strategol Rhyngwladol allweddol y Brifysgol ac i ddatblygu ystod o gyfleoedd rhyngwladol i fyfyrwyr a staff fel ei gilydd. Hefyd, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid allweddol eraill yn unol â strategaeth y prifysgolion i gefnogi ein hymchwil ac addysg sy’n fyd-arweiniol. YMGYSYLLTIAD A’R GENHADAETH DDINESIG We are part of a research-led University located in Rydym yn rhan o Brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi’i lleoli mewn rhanbarth lle mae datblygiad economaidd a chymdeithasol yn flaenoriaeth fawr.
8 Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Strategaeth ar gyfer Twf: 2023-2026
9
Made with FlippingBook flipbook maker