Cylchgrawn Pwls - Cyf 03 Rhifyn Lles

PWLS

RHIFYN LLES

WYDDECH CHI... Os gallwch ymrwymo i weithio i GIG Cymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, byddwch yn gymwys i gael Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru ynghyd â chyllid cynhaliaeth a benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr.

HERIAU BYD-EANG: Covid Hir BYDD RHAGLENNI ADSEFYDLU PERSONOL AR GYFER CLEIFION Â COVID HIR YN CAEL EU DATBLYGU FEL RHAN O BROSIECT YMCHWIL NEWYDD DIOLCH I £1.1 MILIWN O GYLLID GAN LYWODRAETH Y DU.

MYND I’R AFAEL Â

WYDDECH CHI... Amcangyfrifwyd bod Covid Hir yn effeithio ar o leiaf 10% o bobl sy’n profi’n bositif am Covid-19. Mae’r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu bod dros filiwn o bobl yn byw gyda’r cyflwr yn y DU.

Phrinder yn y GIG

MAE ABERTAWE’N PARHAU I CHWARAE RHAN HANFODOL YN Y GWAITH O HYFFORDDI GWEITHLU GOFAL IECHYD Y DYFODOL GYDA CHYRSIAU NEWYDD YN CAEL EU HYCHWANEGU AT EIN HOPSIYNAU HYFFORDDI WEDI’U HARIANNU’N LLAWN AC EHANGU MYNEDIAD I GRWPIAU SYDD WEDI’U TANGYNRYCHIOLI.

Mae pobl sydd â Covid hir yn profi amrywiaeth eang o broblemau parhaus fel blinder ac anhawster gyda thasgau bob dydd, sy’n golygu y gallant ei chael hi’n anodd dychwelyd i’w bywydau blaenorol. Gall hyn wedyn gael ei waethygu gan ansicrwydd a diffyg dealltwriaeth ynghylch y diagnosis. Nid oes unrhyw opsiynau triniaeth go iawn ar hyn o bryd, felly mae datblygu ymyriadau effeithiol i helpu pobl i ymdopi â’u cyflwr a’u goresgyn yn hanfodol i’r grwp hwn o gleifion sy’n cynyddu ond sydd heb ei wasanaethu’n ddigonol. Mae’r prosiect, a elwir yn LISTEN, wedi’i ariannu drwy’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR). Mae’n dwyn ynghyd arbenigedd o St George’s, Prifysgol Llundain a Phrifysgol Kingston, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe ac mae’n cynnwys dylunio a gwerthuso ymyriad hunanreoli ar gyfer pobl sy’n dioddef o Covid hir. Mae cynigion ar gyfer y ffyrdd newydd hyn o gefnogi pobl â Covid hir yn cynnwys llyfr, adnoddau digidol a phecyn hyfforddi newydd ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol. Bydd ymchwilwyr prosiect nid yn unig yn dadansoddi ^

Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn arwain y ffordd o ran hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol y GIG a gofal iechyd ac mae hyn wedi’i gydnabod gydag amrywiaeth o gyrsiau newydd wedi’u hariannu’n llawn, gan gynnwys BSc mewn Therapi Galwedigaethol, BSc Ymarferydd Adran Llawdriniaethau a Nyrsio Anabledd Dysgu. FErs bron tri degawd, mae ein dull arloesol o addysgu ynghyd â’n hymroddiad i wella’r ddarpariaeth gofal iechyd wedi ein rhoi ar flaen y gad o ran hyfforddi gweithlu yfory ar gyfer y GIG yng Nghymru a thu hwnt. Mae hyn yn ein gwneud yn lle delfrydol i chi os ydych yn bwriadu cymryd y cam cyntaf tuag at yrfa gofal iechyd.

Eich opsiynau Gwyddorau Gofal Iechyd • Clywedeg • Ffisioleg Gardiaidd • Peirianneg Feddygol • Meddygaeth Niwclear • Niwroffisioleg • Ffiseg Radiotherapi • Ffiseg Ymbelydredd • Ffisioleg Anadlu a Chysgu • Peirianneg Adferiad Meddygaeth Bydwreigiaeth Myrsio • Oedolyn • Plant • Anabledd Dysgu • Iechyd Meddwl Therapi Galwedigaethol Ymarferydd Adran Llawdriniaethau Gwyddor Barafeddygol Astudiaethau Cydymaith Meddygol

Rydym yn credu’n gryf y dylai gweithlu’r GIG yma yng Nghymru, a thu hwnt, adlewyrchu ein cymdeithas amrywiol yn llawn, felly rydym wedi ymrwymo i ehangu mynediad i’n cyrsiau gofal iechyd drwy ddefnyddio cynigion cyd-destunol. Mae cynigion cyd-destunol yn ystyried amrywiaeth o ffactorau a allai fod wedi cael effaith ar eich cyrhaeddiad addysgol, a allai eich atal rhag cael mynediad i addysg uwch. Rydym yn defnyddio gwybodaeth ychwanegol o’ch ffurflen gais ochr yn ochr â’n gofynion derbyn safonol i roi’r cyfle

“Mae pandemig COVID-19 wedi rhoi ffocws pendant ar ba mor gyfyngedig yw ein hadnoddau iechyd a gofal” Dr Berni Sewell

pa mor effeithiol yn glinigol yw’r ymyriad, ond hefyd pa mor effeithiol yw’r ymyriad o ran cost. Fel yr esbonia Dr Berni Sewell, Uwch-ddarlithydd yng Nghanolfan Economeg Iechyd Abertawe y Brifysgol yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Mae pandemig COVID-19 wedi rhoi ffocws pendant ar ba mor gyfyngedig yw ein hadnoddau iechyd a gofal. Ein cyfrifoldeb

ni yw sicrhau bod pob ymyriad newydd nid yn unig yn effeithiol ond hefyd yn effeithiol o ran cost. Mae cymryd rhan fel economegwyr iechyd yn astudiaeth LISTEN yn gyfle gwych i gefnogi datblygiad ymyriad sy’n gwella canlyniadau a phrofiadau ar gyfer y grwp hwn o gleifion sy’n cynyddu’n gyflym, gan sicrhau hefyd ein bod yn cynnal ein gwasanaeth iechyd ac ansawdd y gofal ar gyfer y dyfodol. ^

gorau i chi gyflawni’r yrfa gofal iechyd rydych chi’n breuddwydio amdani.

14

15

Eisiau gweithio i’r GIG? Trowch i dudalen 34 i ddarllen mwy am ein cyrsiau Gofal Iechyd

Made with FlippingBook flipbook maker