Cylchgrawn Pwls - Cyf 03 Rhifyn Lles

PWLS

CREU EFFAITH...

Lles

Iechyd Meddwl

POBL IFANC MEWN YMATEB I’R CYNNYDD MEWN GORBRYDER, ISELDER, HUNAN-NIWED A HUNANLADDIAD DROS Y DEGAWD DIWETHAF, MAE EIN HYMCHWIL AMLDDISGYBLAETHOL YN TRAWSNEWID DEALLTWRIAETH, GOFAL A CHANLYNIADAU POBL IFANC AG IECHYD MEDDWL GWAEL.

Roedd Dr Emily Marchant ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dathlu Effaith yr ESRC am ei hymchwil arloesol i iechyd meddwl plant.

Mae ein gwaith ar iechyd meddwl pobl ifanc yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â phobl ifanc ac mae ein hymchwil yn cael ei throsi’n gyflym i bolisi ac ymarfer gan gynnwys adnoddau i ysgolion a gweithwyr ieuenctid a chanllawiau ar gyfer ymarfer. Gyda chyllid gwerth dros £3 miliwn dros y pum mlynedd diwethaf, rydym yn arwain Platfform Data Iechyd Meddwl y Glasoed a thema Gwyddor Data Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.

YR ATHRO ANN JOHN Ymchwil sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl pobl ifanc

“Mae’r cyfnod rhwng 11 a 24 oed yn gyfnod o newid anferth a gall teimladau ac emosiynau eithaf cynhyrfus sy’n rhan o’r profiad dynol arferol gyd-fynd â’r newid hwnnw. Un o’r adegau mwyaf cynhyrfus yw amser canlyniadau arholiadau, ac mae hynny’n gallu gwneud i chi deimlo’n bryderus iawn. Mae gorbryder yn gallu effeithio arnoch chi mewn pob math o ffordd. Mae rhai pobl yn eithaf ymwybodol eu bod yn teimlo’n llawn pryder - er enghraifft, os bydd eu calon yn curo ychydig yn gyflymach - ond mae gorbryder hefyd yn gallu teimlo fel cwlwm yn eich stumog neu lwmp yn eich gwddf ac mae’r teimladau hynny bron yn ymateb dynol i’r hyn rydych chi’n ei brofi’n fygythiad, sy’n mynd yn ôl i syniad eithaf cyntefig o ‘ymladd neu ffoi’. Yn aml, bydd y teimladau hyn yn diflannu ond os byddant yn eich cadw ar ddihun gyda’r nos neu os ydych chi’n pryderu neu mae’n effeithio ar eich awydd i weld eich ffrindiau - dyna pryd mae’r pryderu’n mynd yn ormod. Un o’r pethau y gallwch chi eu gwneud yw mynd â’ch meddwl i rywle arall - ceisiwch anadlu i mewn ac allan yn araf, creu rhestr o ganeuon neu wneud rhywbeth corfforol fel mynd am dro, siarad â ffrindiau neu weithgareddau meddylgar fel lliwio. Y peth pwysig i’w gofio yw na fydd hyn yn para am byth. Os ydych chi’n poeni am eich canlyniadau, ffoniwch ni gan fod gennym bobl yma i’ch helpu chi. Gall siarad am eich opsiynau eich helpu i glirio eich meddwl.”

Amlygodd un astudiaeth dan arweiniad yr Athro Ann John

bwysigrwydd strategaethau integredig mewn ysgolion a gofal iechyd i gefnogi cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg. Mae plant ag iechyd meddwl gwael, sy’n niwroamrywiol neu sy’n hunan-niweidio yn aml yn cael trafferth yn yr ysgol. Gall absenoldebau a gwaharddiadau fod yn offeryn defnyddiol i nodi’r rhai y mae angen cymorth ychwanegol arnynt. Bydd ymyrraeth gynnar nid yn unig yn lleihau trallod ac anawsterau uniongyrchol i’r person ifanc ond gall hefyd dorri ar draws llwybrau bywyd gwael a gwella canlyniadau yn ddiweddarach mewn bywyd.

“Mae hanner yr holl broblemau iechyd meddwl wedi’u sefydlu erbyn eu bod yn 14 oed, a thri chwarter erbyn iddynt gyrraedd 24 oed” Yr Athro Ann John

Ar ôl y pandemig, mae arweinwyr addysg hefyd wedi cael eu hannog i flaenoriaethu rhyngweithio cymdeithasol ar gyfer plant o bob oed yn dilyn arolygon dan arweiniad ymchwilwyr o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth. Er y gallent fod wedi cael eu hystyried fel y rhai lleiaf agored i drosglwyddo ac effeithiau negyddol Covid-19 ar iechyd, roedd cyfyngiadau’r pandemig wedi amharu

ar addysg, gweithgarwch corfforol a chyfleoedd pobl ifanc i gymdeithasu. Ychwanegodd Dr Michaela James, o’r Ganolfan: Mae’n bwysig bod lleoliadau addysg yn cydnabod pwysigrwydd lles eu myfyrwyr ac yn blaenoriaethu eu dymuniadau a’u hanghenion yn hytrach na chanolbwyntio ar addysg ‘dal i fyny’ a phwysau asesu.

18

Made with FlippingBook flipbook maker