Cylchgrawn Pwls - Cyf 03 Rhifyn Lles

DYMA

PWLS

RHIFYN LLES

LIBERTY STADIUM STADIWM SWANSEA.COM

M4 & CARDIFF M4 CAERDYDD

Abertawe

SWANSEA STATION GORSAF ABERTAWE

A483

SINGLETON PARK PARC SINGLETON

WIND STREET STRYD GWYNT

CITY CENTRE

YSBYTY SINGLETON

HOSPITAL

BAY CAMPUS CAMPWS Y BAE

SPORTS VILLAGE PENTREF CHWARAEON

MARINA Y MARINA

Mae ein dinas ger y mor â safle heb ei ail ger y traeth yn rhoi cyfle i chi wneud y gorau o’r arfordir wrth fwynhau bywyd prysur y ddinas ar yr un pryd.

SINGLETON PARK CAMPUS CAMPWS PARC SINGLETON

ABERTAWE YW: 4 awr o Fanceinion 3 awr o Birmingham a Llundain 2 awr o Gaerfaddon a Bryste 1 awr o Gaerdydd Mae meysydd awyr Caerdydd, Bryste a Heathrow yn hawdd eu cyrraedd o Abertawe hefyd!

MUMBLES Y MWMBWLS

GOWER PENINSULA PENRHYN G Ŵ YR

PENRHYN G Ŵ YR Gyda mwy na 19 milltir o arfordir prydferth i’w darganfod, gallwch dreulio eich amser yn heicio bryniau carreg calch Bae’r Tri Chlogwyn, yn syrffio ar rai o donnau gorau’r Deyrnas Unedig yn Llangynydd neu’n rhyfeddu at brydferthwch garw Bae Rhosili.

Y MWMBWLS Cymydog y Brifysgol yw pentref bach y Mwmblws ger y traeth; mae’n gartref i Bier Fictoria a Chastell Ystumllwynarth, siopau llawn steil a bwytai annibynnol, ynghyd â pharlyrau hufen iâ enwog Verdi’s a Joe’s.

CAMPWS SINGLETON Wedi’i lleoli ar gampws Singleton, mae’r Ysgol Feddygaeth mewn safle hwylus rhwng traeth Bae Abertawe a pharc gwyrdd Singleton, sy’n berffaith am bicnic amser cinio neu ddiwrnod ar y traeth dros y penwythnos.

UPLANDS Mae’r Uplands yn ardal boblogaidd ymhlith myfyrwyr ac yn gartref i farrau a bwytai trendi, y ffordd orau yng Nghymru o wella pen mawr (diolch i Uplands Diner am eich brecwast mawr, y “Mega Beast”!), siopau cyfleus a marchnad fisol Uplands, a rhai o’r golygfeydd gorau yn y ddinas.

Y MARINA Pan fydd y môr yn galw, does dim lle gwell. Dewch yma am bopeth gan gynnwys barrau i gael noson allan, Theatr Dylan Thomas, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a marchnad brysur unwaith y mis.

DARGANFOD Y DDINAS Yng nghanol dinas Abertawe, gallwch chi siopa yn y stryd fawr a’r farchnad dan do fwyaf yng Nghymru, bodloni eich awydd am ddiwylliant yn Oriel Gelf Glynn Vivian neu gael blas ar y gwahanol fwytai, barrau a thafarnau yn Stryd y Gwynt, stryd sy’n (ddrwg) enwog yn Abertawe.

22

23

Made with FlippingBook flipbook maker